Rhyddfrydiaeth economaidd

Ideoleg a damcaniaeth o economi wleidyddol a gysylltir yn enwedig ag ysgrifeniadau Adam Smith a'r economegwyr clasurol yn y 19g yw rhyddfrydiaeth economaidd. O ran polisi mewnwladol, tybiwyd y dylai'r llywodraeth gymryd agwedd laissez-faire at yr economi, a goblygiad y ddamcaniaeth hon o lywodraeth leiaf bosibl oedd i'r wladwriaeth ganolbwyntio ar amddiffyn y wlad rhag bygythiadau allanol. Ar y lefel ryngwladol, cefnogir masnach rydd a rhyngddibyniaeth gymhleth gan ryddfrydwyr economaidd. Credant byddai cyfundrefn fyd-eang o'r fath yn diddymu achosion economaidd rhyfel ac yn hybu heddwch yn ogystal â ffyniant economaidd.

Yn niwedd y 19g, cafodd tybiaethau'r rhyddfrydwyr economaidd eu drysu gan bolisïau masnach achlesol Unol Daleithiau America a'r Almaen Imperialaidd. Roedd y fath ddiffyndollaeth yn hollol groes i egwyddorion yr economegwyr clasurol, a noda hanes economaidd modern gan bolisïau a phenderfyniadau gweithredyddion yn herio'r uniongrededd ryddfrydol. Trodd yr economegwyr rhyddfrydol at ffurfio fframweithiau ar sail cydweithio rhyngwladol i geisio sefydlu masnach rydd. Enillwyd y drefn ho yn sgil diwedd yr Ail Ryfel Byd a chytundebau Bretton Woods (1944–45) ac yn ddiweddarach y Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT; 1947).

Yn ôl J. A. Hobson, roedd rhyddfrydiaeth ar drywydd imperialaeth. Yn ôl Leonard Hobhouse, roedd modd addasu delfryd rhyddid, un o brif egwyddorion y traddodiad rhyddfrydol, at nod y sosialwyr o gydraddoldeb. Cyfunwyd y ddwy agwedd hon yn hanner cyntaf yr 20g gan Keynesiaeth, yr anuniongrededd ryddfrydol newydd. Dadleuasant y byddai'n rhaid i'r wladwriaeth ymyrryd yn rheolaidd ym mywyd economaidd y wlad er mwyn cwtogi ar anghydraddoldebau yn y gymdeithas. Yn ôl John Maynard Keynes a'i ddisgyblion, nid yw grymoedd y farchnad yn gwarantu "ailosodiadau" ac felly mae'n rhaid i'r llywodraeth "gywiro" y farchnad. Ar y lefel ryngwladol, parhaodd y rhyddfrydwyr anuniongred i ddadlau dros ragor o gydweithio rhwng gwledydd, a hynny er mwyn lleihau anghydraddoldebau yn ogystal ag ehangu ar ryddid economaidd.

Yn sgil twf y Trydydd Byd yn ystod y Rhyfel Oer, rhoddwyd cyfle i'r rhyddfrydwyr cymhwyso'u syniadau cyfadferol at y maes hwn. Nodweddir yr agweddau hyn gan Adroddiadau Brandt (1980, 1983). Yn ôl y fydolwg hon, dylai llywodraethau'r byd datblygedig fod yn barod i gynorthwyo'r gwledydd lleiaf economaidd ddatblygedig, hyd yn oed os oes angen tarfu ar dueddiadau'r drefn ryddfrydol i wneud hynny. Mae cynlluniau a rhaglenni'r Drefn Economaidd Ryngwladol Newydd (NIEO) a'r gorchmynion a wnaed dan nawdd Cynhadledd Masnach a Datblygiad y Cenhedloedd Unedig (UNCTAD) fel rheol yn gytûn ag argymelliadau'r rhyddfrydwyr cyfadferol. Mae rhai o syniadau'r rheiny, er enghraifft sefydlogi prisoedd cynwyddau er mwyn sicrhau parhad incwm mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig, yn hollol groes i athrawiaeth economeg glasurol.

Gweler hefyd

golygu