Adam Rhys Jones
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Adam Rhys Jones (ganed 8 Mawrth 1981). Mae'n chwarae i'r Gweilch fel prop pen tyn, ac mae wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau.
Adam Rhys Jones | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1981 Aber-craf |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 124 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Castell-nedd, Y Gweilch, Rygbi Caerdydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | prop |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef yng Nglynebwy, a bu'n chwarae dros glwb Castell Nedd cyn trosglwyddo i’r Gwelch yn 2003. Chwaraeodd dros Gymru ar lefel dan-23.
Enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 2003, a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn erbyn Awstralia yn y gystadleuaeth honno.
Roedd yn rhan allweddol o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 2005, gan chwarae ym mhob gêm, a dechreuodd ym mhedair allan o'r pum gêm pan enillwyd y Gamp Lawn eto yn 2008.
Gelwir ef a'i gyd-brop gyda'r Gweilch, Duncan Jones, yr "Hair Bears" oherwydd eu gwalltiau.