Agor y brif ddewislen

Glynebwy

tref ym Mlaenau Gwent

Prif dref Blaenau Gwent yw Glynebwy (weithiau 'Glyn Ebwy).'[1] Dyma'r enw Cymraeg sydd hefyd ar y plwyf eglwysig,[2] sydd â phoblogaeth o tua 25,000.

Glynebwy
Ebbw Vale-panorama.jpg
Math Tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth 18,558 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Blaenau Gwent Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.7779°N 3.2117°W Edit this on Wikidata
Cod OS SO165095 Edit this on Wikidata
Cod post NP23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Alun Davies (Llafur)
AS/au Nick Smith (Llafur)

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Alun Davies (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[3][4]

Datblygiadau ar Safle Gwaith Dur GlynebwyGolygu

Yn y 2010au datblygwyd safle'r hen waith dur, ac yn 2010, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yno. Mae'r datblygiad yn cynnwys cartrefi, safle manwerthu, swyddfeydd, gwlypdir, ysbyty newydd (Ysbyty Aneurin Bevan) a mwy yn cael eu lleoli ar y safle.[5]

Gŵyl Garddio Genedlaethol CymruGolygu

Fe wnaeth yr Ŵyl Garddio Genedlaethol Cymru denu dros ddwy filiwn o bobl i Lynebwy ym 1992.[6]

Eisteddfod GenedlaetholGolygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ym 1958. Fe'i chynhaliwyd yn y dref yn 2010 hefyd (gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010).

Ffeithiau DiddorolGolygu

  • Crëwyd Pont Porthladd Sydney gyda dur a haearn o weithfeydd dur Glynebwy.[7]
  • Crëwyd cledrau sydd ar Reilffordd Stockton and Darlington yng Nglynebwy.[8]

EnwogionGolygu

Gwybodaeth eraillGolygu

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 347 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 309 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 262 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[9]

Arferai bod clwb pêl-droed safon uwch Cymru yn y dref. Roedd C.P.D. Glyn Ebwy yn gymharol llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au, ond daeth y clwb i ben yn 1998.

Dolenni allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. www.comisiynyddygymraeg.cymru. Dywed Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru - Mae enwau sy'n dechrau â’r elfen pentre(f) yn cael eu hysgrifennu’n un gair (Pentrefelin) gan mwyaf. Fodd bynnag, mae’n gonfensiwn eu hysgrifennu’n ddau air neu ragor os yw'r ail elfen yn cyfeirio at safle cydnabyddedig neu enw priod (Pentre Saron, Pentre Tafarnyfedw).; adalwyd 10 Gorffennaf 2017.
  2. Gweler Enwau Cymru, er enghraifft, sy'n nodi enw'r dref fel Glynebwy ac enw'r plwyf fel Glyn Ebwy.
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Y Weledigaeth. Adalwyd 20 Ebrill 2011
  6. (Saesneg) During the Garden Festival of Wales. Gŵyl Gerddi Cymru. Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.
  7. Gweler Hanes Glynebwy ar gwefan y BBC
  8. Gweler 200 mlynedd o'r chwyldro diwydiannol yng Nglynebwy.
  9. The Changing Face of Wales - Welsh Speakers


  Eginyn erthygl sydd uchod am Flaenau Gwent. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.