Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd
un o adeiladau Prifysgol Caerdydd
Un o adeiladau Prifysgol Caerdydd yw Adeilad Bute, a leolir ym Mharc Cathays. Lleolir adrannau pensaernïaeth, newyddiaduraeth ac astudiaethau'r cyfryngau a diwylliant y brifysgol yno. Coleg Technegol Caerdydd oedd deiliad gwreiddiol yr adeilad neo-glasurol hwn. Enillwyd y gystadleuaeth i'w gynllunio gan y penseiri Ivor Jones a Percy Thomas ym 1911.[1] Dyma felly oedd adeilad cyntaf y ffỳrm bensaernïol a elwid yn hwyrach yn Bartneriaeth Percy Thomas,[2] a barodd hyd 2004. Agorwyd yr adeilad ym 1916, ac ychwanegwyd adain y gorllewin ym 1927.[3] Mae'r cerflun ar y tu allan o ddraig goch yn dal cledren ddanheddog yn waith gan David Petersen a wnaed ym 1980.[4] Penodwyd yr adeilad hwn yn adeilad rhestredig Gradd II ym 1966.[3]
-
Y ddraig goch
Math | adeilad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Caerdydd |
Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 10 metr |
Cyfesurynnau | 51.4865°N 3.1826°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas, Norman Percy. Thomas, Syr Percy Edward. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Mai 2015.
- ↑ (Saesneg) Unwin, Simon. "Thomas, Sir Percy Edward". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/63146.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Bute Building, Castle. British Listed Buildings. Adalwyd ar 23 Mai 2015.
- ↑ (Saesneg) Red Dragon. National Recording Project. Public Monuments and Sculpture Association. Adalwyd ar 23 Mai 2015.