Percy Thomas
Pensaer o dras Gymreig a fu'n gweithio'n helaeth yng Nghymru oedd Syr Percy Edward Thomas (12 Medi 1883 – 17 Awst 1969). Roedd yn lywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) ar ddau achlysur, ym 1935–7 a 1943–6.[1]
Percy Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 13 Medi 1883 South Shields |
Bu farw | 19 Awst 1969 Llanisien |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, OBE, Marchog Faglor |
Fe'i ganwyd yn South Shields, Swydd Durham, yn fab i Christmas Thomas, gapten llong o Arberth, Sir Benfro, a'i wraig Cecilia (Thornton gynt). Dychwelodd y teulu i Gymru pan oedd Percy yn ddeg oed, wedi'u denu gan y diwydiant glo. Ym 1903, enillodd Percy Thomas y wobr pensaerniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Ym 1911 enillodd gystadleuaeth, ar y cyd â'i ffrind, Ivor Jones o Gaerdydd, i gynllunio'r Coleg Technegol ym Mharc Cathays, Caerdydd (rhagflaenydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd). Adwaenir yr adeilad hwn bellach fel Adeilad Bute, ac mae'n rhan o Brifysgol Caerdydd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd ym Mrwydr y Somme. Pan ddychwelodd o'r fyddin, cynlluniodd dafarnau ar gyfer S. A. Brain. Yn y 1930au, cynlluniodd ei weithiau pwysicaf, gan cynnwys Guildhall Abertawe, y Deml Heddwch yng Nghaerdydd a nifer o adeiladau Coleg Prifysgol Aberystwyth. Bu farw yn ei gartref yn Llanisien, Caerdydd, ym 1969.
Rhai o'i weithiau
golygu-
Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd (adeiladwyd 1913–6)
-
Empire House, Tre-Biwt, Caerdydd (1926)
-
Siop adrannol James Howell, Caerdydd (1928–30)
-
Tafarn y Westgate, Caerdydd (1932)
-
Neuadd Brangwyn, rhan o Ganolfan Ddinesig Abertawe (1932–6)
-
Neuadd y Sir, Caerfyrddin (cynlluniwyd 1935, cwbwlhawyd 1955)
-
Y Deml Heddwch, Caerdydd (1937–8)
-
Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth (adeiladwyd 1950–60)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Norman Percy Thomas. "Thomas, Syr Percy Edward". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 27 Awst 2023.