David Petersen
Cerflunydd o Gymru ydy David Petersen (ganwyd Caerdydd, 1944), sy'n byw yn Sanclêr. Metel fydd yn defnyddio yn bennaf ar gyfer cerflunio ond mae hefyd yn paentio a darlunio.
David Petersen | |
---|---|
David Peterson yn An Oriant | |
Ganwyd | 1944 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Galwedigaeth | cerflunydd |
Mae ei feibion Toby a Gideon hefyd yn gerflunwyr. Enillodd y teulu'r cyfle i greu'r Oleufa Genedlaethol ar gyfer dathliadau'r Mileniwm.[1] David Petersen ddyluniodd y stamp ail-ddosbarth gyda'r cenheinen arni wedi ei gerfio o bren.[2]
Roedd Petersen hefyd ym ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cynulliad Cymru ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 1999. Fe enillodd 2356 o bleidleisiau, sef 8.1%.[3]
Roedd yn arwain y ddirpwyaeth o Gymru pob blwyddyn yn y Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant, ond ymddeolodd o'r swydd wirfoddol yn 2008, yn dilyn gwrthdaro gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Millennium beacon ready for big night 29 Rhagfyr 1999
- ↑ The GB Virtual Album:Pictorial Regionals Archifwyd 2015-01-30 yn y Peiriant Wayback Stampiau Cymru 1999
- ↑ "Canlyniadau Etholiad - 1999". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-21. Cyrchwyd 2007-12-02.
- ↑ Welsh artist accuses Assembly in work row, Martin Shipton, Western Mail. 9 April 2008
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Proffil ar wefan y BBC