Adeilad rhestredig

(Ailgyfeiriad o Adeilad cofrestredig)

Mae adeilad rhestredig yn adeilad yng ngwledydd Prydain neu ogledd Iwerddon sydd ar gofrestr statudol o adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig neu hanesyddol. Ceir tua hanner miliwn o adeiladau wedi'u rhoi ar restrau sawl corff: Cadw yng Nghymru, Historic Scotland, English Heritage a NIEA (Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon).

Adeilad rhestredig
Enghraifft o'r canlynolcofrestr diwylliannol, statws defnydd Edit this on Wikidata
Mathsafle treftadaeth yn y Deyrnas Unedig, adeilad Edit this on Wikidata
Yn cynnwysadeilad rhestredig Gradd I, adeilad rhestredig Gradd II*, adeilad rhestredig Gradd II, adeilad rhestredig categori A, adeilad rhestredig categori B, adeilad rhestredig categori C Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pont reilffordd dros Afon Forth, a gynlluniwyd gan Syr Benjamin Baker a Syr John Fowler, ac a agorwyd i'r cyhoedd yn 1890. Mae wedi'i gofrestru fel Adeilad Categori A gan Historic Scotland.

Defnyddir y term hefyd yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda National Inventory of Architectural Heritage yn gyfrifol am y cofrestru. Y term swyddogol yno yw "strwythur wedi'i warchod".[1]

Ni chaniateir dymchwel adeilad cofrestredig, na'i ehangu neu ei addasu heb ganiatâd arbennig gan yr awdurdod cynllunio lleol, sydd yn ei dro'n ymgynghori gydag asiantaeth y llywodraeth ganolog perthnasol (ee Cyfoeth Naturiol Cymru neu Cadw), yn enwedig gydag adeiladau o nod (Gradd 1 neu 1*). Gellir gwneud eithriad o adeiladau crefyddol lle'i defnyddir heddiw i addoli, ond dim ond yn yr achosion hynny ble ceir gweithdrefnau caniatâd wedi'u cymeradwyo.

Nantclwyd y Dre, Rhuthun; Gradd I

Ar adegau gorfodir perchnogion i gynnal a chadw'r adeilad neu ei drwsio, a gallant gael eu herlyn os na wnânt hynny, neu pe baent yn newid yr adeilad mewn unrhyw fodd, heb y caniatâd priodol. Mae'r gyfraith yn caniatau tynnu adeilad o'r rhestr os profir ei fod yno drwy gangymeriad.[2]

Categoriau golygu

Ceir tri math o gategoriau neu ddosbarth o adeiladau yng Nghymru a Lloegr:[3]

  • Gradd I: adeiladau o ddiddordeb arbennig,
  • Gradd II*: adeiladau pwysig sydd o ddiddordeb uwch na'r cyffredin,
  • Gradd II: adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig.[4]

Arferid cael dosbarth anstatudol sef Gradd III, a ddaeth i ben ym 1970.[5] Rhennid adeiladau crefyddol Eglwys Loegr i Raddau A, B ac C cyn 1977 ac mae llond dwrn ohonyn nhw'n parhau gyda'r hen drefn.

Yn Lloegr, mae tua 2% o holl adeiladau'r wlad wedi eu cofrestru.[6] Ym Mawrth 2010, roedd oddeutu 374,000 ar y gofrestr[7]: tua 92% wyn Radd II, 5.5% yn Radd II*, a 2.5% yn Radd I.[8]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Buildings of Ireland". Cyrchwyd 14 August 2012.
  2. "Listing FAQs". English Heritage. Cyrchwyd 24 Mai 2011.
  3. "Principles of Selection for Listing Buildings" (PDF). Department of Culture, Media and Sport. Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol (.pdf) ar 2012-06-10. Cyrchwyd 24 Mai 2011. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. "Adeiladau rhestredig". English Heritage. Cyrchwyd 24 Mai 2011.
  5. "About Listed Buildings". heritage.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-10-26. Cyrchwyd 2013-11-12.
  6. "Heritage at Risk Report" (.pdf). English Heritage. Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 6 Mehefin 2011.
  7. "Listing Buildings". Department of Culture, Media and Sport. Cyrchwyd 6 June 2011.
  8. "Listed Buildings". English Heritage. Cyrchwyd 7 Mehefin 2011.