Adeiladau rhestredig yng Nghymru
Ychydig iawn o aneddau medrir eu dyddio yng Nghymru cyn y 1450au, ac eithrio adfeilion cestyll, a phalas yr Esgob Gower yn Nhyddewi a Nantclwyd y Dre yn Rhuthun sy'n dyddio i o leiaf 1435. Parhawyd i godi gestyll wedi Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Codwyd tŵr arbennig o gain yn Rhaglan gan William Herbert ac ehangwyd ffenestri nifer o gestyll er mwyn eu troi'n anedd-dai cyfforddus. Codwyd 'tai tŵr' castellog ac ym Mhenfro codwyd 'tai neuadd' gan nifer o uchelwyr Cymreig.[1] Cyfunwyd y ddwy dechneg pensaernïol yma yn Nhretŵr oddeutu 1451 a godwyd gan Rhosier Fychan, cefnder William Herbert. Treuliodd y bardd Guto'r Glyn ysbaid yno yn yr adeiladau moethus. Tua'r adeg hon y datblygodd tai a wnaed o goed derw lleol: y tai 'du a gwyn' fel y'i gelwir. Yr ardaloedd gorau i weld y math hwn o anheddiad yng Nghymru yw Powys.
Dyma arolwg ar adeiladau rhestredig yng Nghymru.
Allwedd
golyguGradd | Meini prawf[2] |
---|---|
I | Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer. |
II* | Adeiladau o bwys penodol sydd o ddiddordeb mwy nag arbennig. |
II | Adeiladau o ddiddordeb arbennig sy'n haeddu gwneud pob ymdrech i'w diogelu. |
Adeiladau rhestredig Gradd I yn ôl sir
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Hanes Cymru gan John Davies; Gwasg Penguin; 1990; tud 204.
- ↑ Cwestiynau Cyffredin. Cadw. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.