Aderyn du a'i blufyn sidan (cân)

cân werin Cymraeg

Cân werin draddodiadol yw Aderyn du a'i blufyn sidan. Roedd adar ers talwm yn symbolau o wahanol bethau, ac fel yma, yn llatai neu'n negeswyr. Enghraifft arall o hyn yw Adar Mân y Mynydd.

Aderyn du a'i blufyn sidan
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata

Geiriau golygu

Aderyn di a'i blufyn sidan,
A'i big aur a'i dafod arian,
A ei di dros ta i Gydweli,
I holi hynt yr un rwy'n garu?

A dacw'r ty, a dacw'r sgubor,
A dacw glwyd yr ardd yn agor
A dacw'r goeden fawr yn tyfu,
O dan ei bôn rwy' am fy nghladdu.

Un, dou, tri pheth sy'n anodd imi
Yw cyfri'r sêr pan fo hi'n rhewi,
A doti'n llaw i dwtsh â'r lleuad,
A deall meddwl f'annwyl gariad.

Llawn iawn yw'r wy o wyn a melyn,
Llawn iawn yw'r môr o swnd a chregyn.
Llawn iawn yw'r coed o ddail a blode,
Llawn iawn o gariad ydw inne.

Ceir sawl fersiwn o'r gân hon, mewn sawl tafodiaith, acrferid ychwanegu hen benillion addas ar y pwnc (serch) i ymestyn y gân.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato