Aderyn ysglyfaethus
(Ailgyfeiriad oddi wrth Aderyn rheibiol)
Aderyn sy'n bwydo ar gnawd anifeiliaid eraill yw aderyn ysglyfaethus (hefyd aderyn rheibus neu aderyn rheibiol). Mae gan adar ysglyfaethus big fachog, crafangau cryf a golwg ardderchog. Mae'r term yn cynnwys gweilch, eryrod, fwlturiaid, hebogiaid a'u perthnasau. Weithiau, ystyrir tylluanod yn adar ysglyfaethus hefyd er nad ydynt yn perthyn i'r lleill.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | aderyn, predatory animal ![]() |
![]() |

Eryr Moel (Haliaeetus leucocephalus)

Tylluan Wen (Tyto alba)
DosbarthiadGolygu
Dosberthir y pum teulu o adar ysglyfaethus sy'n hela yn ystod y dydd mewn un urdd, Falconiformes, yn draddodiadol. Mae rhai tacsonomegwyr yn cydnabod un neu ddwy urdd ychwanegol, Cathartiformes ac Accipitriformes.
- Cathartidae: fwlturiaid y Byd Newydd
- Sagittariidae: Aderyn y Cwils
- Pandionidae: Gwalch y pysgod
- Accipitridae: gweilch, eryrod a fwlturiaid yr Hen Fyd
- Falconidae: hebogiaid a characaraod
Mae'r dau deulu o dylluanod yn perthyn i'r urdd Strigiformes.
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Global Raptor Information Network Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback.