Tylluan wen

rhywogaeth o adar
Am y ffilm o'r un enw, gweler Tylluan Wen (ffilm)
Tylluan Wen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Strigiformes
Teulu: Tytonidae
Genws: Tyto
Rhywogaeth: T. alba
Enw deuenwol
Tyto alba
(Scopoli, 1769)
Dosbarthiad y Dylluan Wen.
Tyto alba guttata

Mae'r Dylluan Wen (Tyto alba) yn aelod o deulu'r Tytonidae, yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddylluanod, sydd yn y teulu Strigidae. Gyda'i ddosbarthiad byd-eang bron, heblaw gogledd Asia a'r Antarctig, mae'n aderyn adnabyddus iawn, er nad yw'n arbennig o gyffredin yn y rhan fwyaf o wledydd.

Penglog tylluan wen

Caiff ei henw o'r ffaith ei bod yn edrych yn wyn, gyda bol gwyn at yr is-rywogaeth Ewropeaidd T. a. alba, tra mae'r cefn yn liw llwyd-frown golau. Lliw mwy oren sydd ar fol yr is-rywogaeth yn Asia, T. a. guttata Mae'n 33–39 cm o hyd a 80–95 cm ar draws yr adenydd. Mae'r alwad yn sgrech annaearol - y Dylluan Frech sy'n galw Twhit - tyhw, nid y Dylluan Wen.

Y prif fwyd yw mamaliaid bychain, er enghraifft llygod, sy'n cael eu hela ar dir agored, yn y nos fel rheol. Bwyteir llyffantod a phryfed hefyd. Maent yn aml yn nythu mewn adeiladau ffermydd megis hen feudai, ac oherwydd eu bod yn bwyta llygod a llygod mawr mae ffermwyr fel rheol yn eu croesawu.