Aderyn ysglyfaethus

Aderyn sy'n bwydo ar gnawd anifeiliaid eraill yw aderyn ysglyfaethus (hefyd aderyn rheibus neu aderyn rheibiol). Mae gan adar ysglyfaethus big fachog, crafangau cryf a golwg ardderchog. Mae'r term yn cynnwys gweilch, eryrod, fwlturiaid, hebogiaid a'u perthnasau. Weithiau, ystyrir tylluanod yn adar ysglyfaethus hefyd er nad ydynt yn perthyn i'r lleill.

Aderyn ysglyfaethus
Mathavian predator, hypercarnivore Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Eryr Moel (Haliaeetus leucocephalus)
Tylluan Wen (Tyto alba)

Dosbarthiad golygu

Dosberthir y pum teulu o adar ysglyfaethus sy'n hela yn ystod y dydd mewn un urdd, Falconiformes, yn draddodiadol. Mae rhai tacsonomegwyr yn cydnabod un neu ddwy urdd ychwanegol, Cathartiformes ac Accipitriformes.

Mae'r dau deulu o dylluanod yn perthyn i'r urdd Strigiformes.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.