Affrica-Ewrasia
Uwch-gyfandir mwyaf y byd yw Affrica-Ewrasia. Mae'n cynnwys tri chyfandir, sef Affrica, Asia ac Ewrop (ystyrir y ddau olaf yn eu tro yn un cyfandir mawr gan rai daearyddwyr, sef Ewrasia). Enw arall ar Affrica-Ewrasia a ddefnyddir yn aml, yn enwedig mewn cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yw "Yr Hen Fyd", mewn cyferbyniaeth â'r Amerig, sef "Y Byd Newydd". Y rheswm am hynny yw bod hanes y ddynolryw yn cychwyn yn yr Hen Fyd, yn nyffrynnoedd Dwyrain Affrica.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | uwchgyfandir, cyfandir ![]() |
Rhan o | wyneb y Ddaear, Y Ddaear ![]() |
Yn cynnwys | Affrica, Ewrasia ![]() |
![]() | |
![]() |