Cyfandir

tir mawr a nodwyd gan gonfensiwn

Mae cyfandir yn ehangdir enfawr o dir. Maent yn cael eu diffinio gan ddaearyddiaeth gan amlaf, ond hefyd gan wleidyddiaeth (gweler daearwleidyddiaeth) a diwylliant. Fel arfer ym Mhrydain ceir saith cyfandir.

Yr AmerigEwropAsiaOceaniaOceaniaAffricaYr Antarctig
Map o'r byd yn dangos y cyfandiroedd daearyddol traddodiadol a'r gwledydd sydd ynddynt

Mae gwyddonwyr yn credu mai lafa yn llifo i arwyneb y Ddaear o'r craidd tawdd wnaeth creu'r cyfandiroedd. Ar yr arwyneb, ymsolidodd y lafa i gramen, a wnaeth erydu'n gwaddodion trwy brosesau hindreuliad. Ffurfiodd, chwalodd ac ailffurfiodd y gwaddodion yma tro ar ôl tro, wedi'u heffeithio gan nwyon poeth yn codi o ganol y Ddaear. Ar ôl caledu, trodd y llwyfandiroedd gwaddodol oedd ar ôl yn y cyfandiroedd, sydd yn gorchuddio tua 30% o wyneb y Ddaear.[1]

Dosbarthiad

golygu

Mae daearyddwyr, daearegwyr, llywodraethau, economegwyr, hanesyddion a phobl cyffredin i gyd yn dadlau dros ddosbarthiad cyfandiroedd, ac nid yw cymdeithas eto wedi penderfynu ar union ffiniau'r cyfandiroedd, neu hyd yn oed pa rai sydd yn gyfandiroedd, a pha rai i ddosbarthu fel uwchgyfandiroedd, isgyfandiroedd, microgyfandiroedd, ac ynysoedd. Bu'n arfer cyffredinol i gyfrif bod yna saith cyfandir yn y byd i gyd, ond mae nifer dal yn uno Ewrop ac Asia a Gogledd a De America, yn dadlau am wledydd trawsgyfandirol (megis Rwsia a'r Aifft) ac yn cwestiynu ffiniau, statws ac hyd yn oed enw Awstralia/Awstralasia/Oceania. Mae'n debyg mai Antarctica yw'r unig gyfandir y mae pawb yn cytuno arno.

Mae'r enw cyfandir ei hunan yn awgrymu taw pwnc daearyddol yw dosbarthiad cyfandiroedd, ond yn ddiweddar bu rhai yn galw am ailddosbarthiad cyfandiroedd yn ôl rhesymau gwleidyddol (e.e. cefnogaeth am esgyniad (annhebygol) Canada i'r Undeb Ewropeaidd) neu am resymau hanesyddol (e.e. cynhwysiad gwledydd megis Iwerddon ac Angola yn yr Amerig).

Modelau

golygu

Nid yw pawb yn cytuno sawl cyfandir sydd nac ar faint a ffiniau'r cyfandiroedd. Defnyddir nifer o fodelau ar draws y byd:

Modelau
8 cyfandir: Yr Antarctig De America Gogledd America Canolbarth America Ewrop Asia Affrica Awstralasia
7 cyfandir: Yr Antarctig De America
Gogledd America
Ewrop Asia Affrica Awstralasia
6 chyfandir: Yr Antarctig
Yr Amerig
Ewrop
Asia Affrica Awstralasia
6 chyfandir: Yr Antarctig De America
Gogledd America
Ewrasia
Affrica Awstralasia
5 cyfandir: Yr Antarctig
Yr Amerig
Ewrasia
Affrica Awstralasia
5 cyfandir: Yr Antarctig De America
Lawrasia
Affrica Awstralasia
5 cyfandir: Yr Antarctig
Yr Amerig
Ewrasia
Affrica Awstralasia
4 cyfandir: Yr Antarctig
Yr Amerig
Affrica-Ewrasia
Awstralasia

Dysgir y model 7-cyfandir yn Tsieina, rhannau o Orllewin Ewrop, a'r rhan fwyaf o wledydd Saesneg. Dysgir y model 6-chyfandir (un America) yn America Ladin, Iberia, a'r rhan fywaf o Orllewin Ewrop. Dysgir y model 6-chyfandir (Ewrasia) yn Rwsia, Dwyrain Ewrop, a Japan. Mae'n well gan y gymuned ddaearyddol y model hon, gan fod Ewrop ac Asia yn yr un tir yn ddaearyddol. Mae rhai haneswyr (megis Jared Diamond) yn defnyddio model 5-cyfandir lle gwahanir Gogledd Affrica o Affrica Is-Saharaidd a'i chynnwys yn Ewrasia, tra bo eraill (megis Andre Gunder Frank) yn ffafrio'r model 4-cyfandir (Affrica-Ewrasia). Ni welir y model 5-cyfandir (Lawrasia) yn aml – dim ond am resymau diwydiannol neu ddaearegol (roedd Gogledd America ac Ewrasia yn un gyfandir blynyddoedd maith yn ôl) y'i defnyddir.

Mathau gwahanol o gyfandiroedd

golygu

Uwchgyfandiroedd

golygu
 
Lawrasia a Gondwana (200 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Oherwydd symudiadau'r platiau, bu nifer o gyfandiroedd eraill trwy hanes y Ddaear, gyda siapiau cwbl wahanol i gyfandiroedd heddiw, ac mae o i fyny i ddaearegwyr i benderfynu beth oedd ffurfiau [yr eangdiroedd yma.

Isgyfandiroedd

golygu

Rhanbarth mawr o gyfandir yw isgyfandir. Nid oes cydwelediad ar beth sy'n gwneud isgyfandir, ond fel arfer gwahanir isgyfandir o weddill y cyfandir gan rhyw tirffurf mawr neu nodwedd ddaearegol, megis cadwyn o fynyddoedd neu blât tectonig.

Daearyddiaeth

golygu
Cyfandiroedd yn nhrefn eu harwynebedd
cyfandir arwynebedd (km²)
Affrica-Ewrasia 84 580 000
Lawrasia 78 700 000
Ewrasia 54 210 000
Asia 43 810 000
Yr Amerig 42 330 000
Affrica 30 370 000
Gogledd America 24 490 000
De America 17 840 000
Antarctica 13 720 000
Ewrop 10 400 000
Awstralasia 9 010 000
Awstralia 8 470 000

Gwahaniaethir cyfandir o ynys neu orynys nid yn unig gan faint mwy ond hefyd gan strwythur a datblygiad daearegol. Mae'r ardal gyfandirol – sef yr holl tir uwchben lefel y môr – yn gorchuddio 29% o gyfanswm arwynebedd y Ddaear. Mae mwy na dau draean o arwynebedd y tir cyfandirol i ogledd y cyhydedd. Ar ben hynny, mae'r eangdiroedd cyfandirol yn cynnwys yr ysgafellau cyfandirol suddedig, sy'n goleddu o lannau cefnforol y cyfandiroedd i ddyfnderoedd o dua 183 m; ar dua'r pwynt yma mae'r plymiad mwy sydyn yn dechrau i'r ffos gefnforol a elwir yn y llethr cyfandirol. Os ystyrir yr ysgafellau cyfandirol, mae cyfanswm yr ardal gyfandirol yn cynyddu i 35% o arwynebedd y Ddaear. Mae ynysoedd sy'n sefyll ar ysgafell gyfandirol rhyw cyfandir yn cael eu hystyried fel rhan o'r cyfandir hwnnw. Mae enghreifftiau yn cynnwys Prydain Fawr ac Iwerddon yn Ewrop; Ynysfor Malei a Siapan yn Asia; Gini Newydd, Tasmania, a Seland Newydd yn Awstralasia; a'r Ynys Las yng Ngogledd America.

 
Cyfandiroedd y Ddaear

Daeareg

golygu

Yn naeareg, diffinnir cyfandiroedd yn nhermau strwythur cramennol y Ddaear a phlatiau tectonig, yn hytrach nag arwynebau tir.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am cyfandir
yn Wiciadur.
  1. "What are the 7 Continents of the World/World Continents Map". Map Universal (yn Saesneg). 2018-09-19. Cyrchwyd 2019-07-11. |first= missing |last= (help)