Afon Afan
Afon yn ne Cymru yw Afon Afan, sy'n llifo tua 15 millitir i lawr Cwm Afan ac yn cyrraedd y môr ym Mhort Talbot. Ardal ganolog Porth Talbot yw hen dref Aberafan.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1 metr |
Cyfesurynnau | 51.6329°N 3.734°W, 51.58267°N 3.80702°W |
Aber | Môr Hafren |
Hyd | 19 cilometr |
Mae'r afon yn codi i'r gorllewin o Gwm Rhondda ger pentref Abergwynfi. Mae'n rhedeg i'r gorllewin rhwng bryniau syrth ac yn araf yn troi i gyfeiriad de-orllewinol cyn cyrraedd y môr. Mae'r nentydd sydd yn rhedeg i mewn i'r Afan yn cynnwys Afon Pelenna ac Afon Corrwg.
Nid yw tarddiad yr enw yn glir. Un theori yw ei fod yn dod o'r gair 'mafon'. Un arall yw ei fod yn gyfeiriad at yr afon yn dod o'r 'ban' (h.y. o'r bryniau uchel) oherwydd mae taith yr afon yn fyr ond yn serth.
Am y rhan fwyaf o'r 19g a hanner cyntaf yr 20g roedd yr afon wedi ei llygru yn ddifrifol gan y diwydiant glo a haearn. Erbyn hyn mae'r afon yn cynnal pysgod eto.