Mae pobl wedi bod yn cloddio am lo ers cyfnod y Rhufeiniaid o leiaf. Ond ar raddfa bychan bu hynny tan y Chwyldro Diwydiannol yn y 18g. Yng ngwledydd Prydain - yn arbennig yn Ne Cymru a Gogledd Lloegr - y datblygodd y diwydiant yn gyflymaf wrth i dechnegau newydd ddod i mewn a'r galw am danwydd yn y trefi a dinasoedd gynyddu'n sylweddol. Erbyn 1800 roedd modd carboneiddio glo ar raddfa diwydiannol am y tro cyntaf. Defnyddiwyd y nwy glo a geir felly ar gyfer lampiau nwy glo yn y dinasoedd a'r golosg (côc) ar gyfer smeltio mwyn haearn. Ers y cyfnod hynny mae'r diwydiant glo a'r diwydiant dur wedi tyfu ochr yn ochr â'i gilydd (yn llythrennol felly yn aml).

Plant yn cloddio am lo yng Ngorllewin Virginia, UDA, tua 1908

Erbyn canol y 19g gwelwyd cynnydd yn y diddordeb gwyddonol yn y sgîl-gynhyrchion megis tar glo, amonia a phyg. Rhoddodd hyn yn ei dro hwb i astudiaethau cemeg organig; ymhlith y deunyddiau a ddatblygwyd yr oedd deunydd lliwio a deunydd ffrwydron. Erbyn yr 20g roedd hynny'n sail i'r diwydiant plastig.

Yn ystod y 1920au a'r 1930au roedd diwydiant yr Almaen ar y blaen yn natblygiad prosesau i droi glo'n olew: ffactor allweddol pan aeth y wlad honno i ryfel dan y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd. Ond ers hynny mae nwy naturiol wedi cymryd lle nwy glo i raddau helaeth ac mae petrogemegion wedi disodli tar glo fel ffynhonnell deunyddion organig crai.

Y gwledydd sy'n cynhyrchu mwyaf o lo (miliwn tunnell) [1]
Gwlad 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 Siar Blwyddyn yn weddill
 China 1834.9 2122.6 2349.5 2528.6 2691.6 2802.0 2973.0 3240.0 48.3% 35
 USA 972.3 1008.9 1026.5 1054.8 1040.2 1063.0 975.2 984.6 14.8% 241
 India 375.4 407.7 428.4 449.2 478.4 515.9 556.0 569.9 5.8% 106
 EU 637.2 627.6 607.4 595.1 592.3 563.6 538.4 535.7 4.2% 105
 Australia 350.4 364.3 375.4 382.2 392.7 399.2 413.2 423.9 6.3% 180
 Russia 276.7 281.7 298.3 309.9 313.5 328.6 301.3 316.9 4.7% 495
 Indonesia 114.3 132.4 152.7 193.8 216.9 240.2 256.2 305.9 5.0% 18
 South Africa 237.9 243.4 244.4 244.8 247.7 252.6 250.6 253.8 3.8% 119
 Germany 204.9 207.8 202.8 197.1 201.9 192.4 183.7 182.3 1.2% 223
 Poland 163.8 162.4 159.5 156.1 145.9 144.0 135.2 133.2 1.5% 43
 Kazakhstan 84.9 86.9 86.6 96.2 97.8 111.1 100.9 110.8 1.5% 303
Total World 5,301.3 5,716.0 6,035.3 6,342.0 6,573.3 6,795.0 6,880.8 7,273.3 100% 118

Cyfeiriadau golygu

  1. "BP Statistical review of world energy 2011" (XLS). British Petroleum. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-26. Cyrchwyd 2011-06-10. Unknown parameter |month= ignored (help)

Gweler hefyd golygu