Aberafan

tref a chymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Aberafan[1] (Saesneg: Aberavon).[2] Fe'i lleolir yng nghanol Port Talbot ar lan orllewinol Afon Afan. Roedd 5,452 o bobl yn byw yng nghymuned Aberafan yn 2011, 7.9% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Arwynebedd y gymuned yw 563 hectar. Saif y dref o fewn cymunedau Aberafan ei hun, Gorllewin Traethmelyn a Dwyrain Traethmelyn.

Aberafan
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,452, 4,015 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd224.95 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.59943°N 3.80194°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001019 Edit this on Wikidata
Cod OSSS752904 Edit this on Wikidata
Cod postSA12 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDavid Rees (Llafur)
AS/au y DUStephen Kinnock (Llafur)
Map
Mae'r erthygl hon am y dref. Am ystyron eraill, gwelwch Aberafan (gwahaniaethu).

Tyfodd Aberafan o amgylch castell pren a adeiladwyd ar ddechrau'r 12g gan Garadog ap Iestyn, un o Arglwyddi Afan tua 1100 O.C ar ochor orllewinol afon Afan. Llosgwyd y castell i lawr ym 1153 ac adeiladwyd y castell o garreg gan Morgan ap Caradoc. Erbyn 1373 roedd y dre yn nwylo Arglwydd Morgannwg, Edward Le Despenser.[3] Daeth yn un o wyth bwrdeisdref seneddol Sir Forgannwg, ond ychydig iawn y tyfodd wedi hynny.

O ddiwedd y 18g ymlaen ddechreuodd diwydiant ddatblygu yn yr ardal - yn cynnwys gweithio tun a chopr. Ym 1840 agorodd y teulu Talbot o Hampshire ddociau yn agos a'u enwi'n "Port Talbot". Yn 1850 cyrhaeddodd y rheilffordd. Mae'r ardal yn dal yn adnabyddus am weithio dur. Dros amser tyfodd Aberafan a'r pentrefi cyfagos (yn cynnwys Baglan, Taibach a Margam) yn un, gan greu'r dref gyfoes Port Talbot.


Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberafan (pob oed) (5,452)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberafan) (411)
  
7.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberafan) (4713)
  
86.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Aberafan) (1,052)
  
42.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberafan ym 1932 a 1966. Am wybodaeth bellach gweler:

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
  3. The History of Port Talbot, S R Jones 1991
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]