Afon Brenig

afon ym Mhwrdeistref Sirol Conwy

Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Brenig, sy'n dechrau ei thaith yn Sir Ddinbych ac yn ei gorffen yn Sir Conwy. Crëwyd cronfa Llyn Brenig drwy godi argae ar draws Afon Brenig yn y 1970au. Hyd: tua 4 milltir.[1]

Afon Brenig
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0493°N 3.5104°W Edit this on Wikidata
Map

Mae tarddle'r afon yn ucheldir Mynydd Hiraethog yn Sir Ddinbych. Cyn codi'r argae roedd hi'n llifo trwy ardal gorsiog tua 3 milltir i'r de o bentref Nantglyn.[1] Dechreuwyd adeiladu'r argae ar yr afon yn 1973 a gorffenwyd y gwaith yn 1976. Mae'r llyn yn dal 60 miliwn o ddŵr, ac yr oedd wedi llenwi erbyn 1979. Llyn Brenig yw'r llyn mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd, tua 920 acer, ond mae Llyn Tegid yn dal mwy o ddŵr.

Ar ôl gadael Llyn Brenig llifa'r afon i gyfeiriad y de i aberu yn Afon Alwen ger Pentre-llyn-cymmer, 3 milltir i'r gogledd o Gerrigydrudiion.[1]

Ffrwd o'r un enw

golygu

Ceir Afon Brenig arall yn yr un ardal, sef ffrwd sy'n llifo o'r moelydd ger Llyn Brenig i gyfeiriad y gogledd i lifo i Llyn Brân.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Map OS 122 Landranger.