Afon Camarch
nant ym Mhowys
(Ailgyfeiriad o Afon Cammarch)
Afon ym Mhowys sy'n un o lednentydd Afon Irfon yw Afon Camarch.
Math | nant |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.148459°N 3.577536°W |
Mae'n tarddu fel nifer o nentydd o gwmpas llethrau deheuol Drygarn Fawr, i'r gogledd o Abergwesyn. Mae'n llifo i'r de trwy bentref Beulah a heibio caer Rufeinig Caerau i ymuno ag afon Irfon ger Llangamarch.