Safle Rufeinig Caerau

Saif Safle Rufeinig Caerau i'r de o bentref Beulah, Powys, gerllaw afon Cammarch, Cyf. OS SN923502. . Cafwyd hyd i'r safle yn ystod arolwg o'r awyr yn Ebrill 1960.

Safle Rufeinig Caerau
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Ar y safle, mae caer Rufeinig gydag arwynebedd o tua dwy acer. Cafwyd hyd i grochenwaith a ddyddiwyd i tua 75 - 90 OC. Ymddengys i'r amddiffynfeydd gael eu cryfhau tua dechrau'r 2g.

Tu allan i'r gaer, mae olion vicus, gyda nifer o adeiladau, a baddondy. I'r gogledd o'r gaer, mae olion gwersyll dros-dro, gydag arwynebedd o 36 acer. Ymddengys hefyd fod dau wersyll ymarfer i'r de o'r gaer.

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: BR148.[1]

CyfeiriadauGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • Symons, S. Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis