Abergwesyn

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref yng nghymuned Llanwrtyd, Powys, Cymru, yw Abergwesyn.[1][2] Saif lle mae afon Gwesyn yn ymuno ag afon Irfon, yng ngorllewin y sir, ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd o dref Llanwrtyd ac i'r dwyrain o Lyn Brianne. Mae ffordd tros y mynydd yn cysylltu'r pentref a Llanddewi Brefi a Tregaron yng Ngheredigion. Ar un adeg roedd y ffordd yma yn un o ffyrdd pwysicaf y porthmyn.

Abergwesyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanwrtyd Wells Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1588°N 3.6773°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN854527 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Mihangel, ac enw llawn y plwyf yw Llanfihangel Abergwesyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU