Afon Colwyn
afon yng Ngwynedd
Mae Afon Colwyn yn afon fechan yng ngogledd Cymru sy'n rhedeg i mewn i Afon Glaslyn.
Afon Colwyn uwchlaw Beddgelert | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.08°N 4.082°W |
Llednentydd | Afon Glaslyn |
Hyd | 10 cilometr |
Mae Afon Colwyn yn tarddu ar lethrau de-orllewinnol Yr Wyddfa. Ar ôl llifo tua'r gorllewin i groesi'r ffordd o Gaernarfon i Feddgelert, yr A4085, ger Pont Cae'r Gors ychydig i'r de o benref Rhyd-ddu, yna'n llifo tua'r de wrth ochr yr A4085 i Feddgelert. Ar y ffordd mae dwy nant, Afon Cwm-du ac Afon Meillionen yn ymuno ag Afon Colwyn. Ym mhentref Beddgelert mae'n ymuno ag Afon Glaslyn.
Mae Afon Colwyn yn afon fer ac yn rhedeg yn gyflym. Fel rheol mae'n cario llai o ddŵr na'r Glaslyn, ond pan mae glaw trwm yn ardal yr Wyddfa gall Afon Colwyn godi yn sydyn iawn.