Afon yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Glaslyn. Ei hyd yw 16 milltir.

Afon Glaslyn
Afon Glaslyn yn llifo i lawr o Feddgelert trwy Fwlch Aberglaslyn
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.92°N 4.12°W Edit this on Wikidata
TarddiadGlaslyn Edit this on Wikidata
AberLlyn Llydaw Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Colwyn Edit this on Wikidata
Hyd26 cilometr Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Llydaw Edit this on Wikidata
Map

Mae'n tarddu yn Llyn Glaslyn yn uchel ar lethrau'r Wyddfa yn Eryri. Mae nifer o nentydd yn ymuno â hi o gwmpas yr Wyddfa, megis Nant Trawsnant, sy'n tarddu o Pen y Pass, a Nant Cynnydd. Llifa'r afon trwy ddau lyn, Llyn Gwynant a Llyn Dinas cyn cyrraedd pentref Beddgelert, lle mae Afon Colwyn yn ymuno â hi ynghanol y pentref. Wedi llifo hebio bedd (honedig) Gelert, ci hela Llywelyn Fawr, mae'r afon yn cyrraedd Aberglaslyn, lle mae'n llifo'n gyflym trwy geunant gul Bwlch Aberglaslyn.

Ar ôl Pont Aberglaslyn mae'r afon yn llifo yn llawer arafach trwy diroedd gwastad Y Traeth Mawr cyn cyrraedd Tremadog a chyrraedd y môr ym Mhorthmadog. Ar un adeg yr oedd yr afon yn cyrraedd y môr yn Aberglaslyn, hyd nes adeiladwyd y Cob ym Mhorthmadog i ad-ennill y tir ar gyfer amaethyddiaeth. Dyna pam y gelwir y lle yn Draeth Mawr. Ym Mhorthmadog mae'r afon yn rhedeg trwy ddorau sy'n rheoli'r llif ac yn aberu ym Mae Tremadog ar ôl croesi'r Traeth Bach.

Oriel golygu