Afon Einion

afon bychan yn gogledd Sir Geredigion

Afon yng ngogledd Ceredigion yw Afon Einion, sy'n llifo i lawr o'r bryniau i'r de o dref Machynlleth ac i'r gogledd o Bumlumon i aberu yn Afon Dyfi. Ei hyd yw tua 4 milltir.

Afon Einion
Mathnant Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYsgubor-y-coed Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.532299°N 3.91591°W Edit this on Wikidata
Map
Afon Einion
Ffwrnais Dyfi gydag Afon Einion yn y cefndir

Mae'r afon yn tarddu tua 480m i fyny yn y bryniau tua phum milltir i'r de o Fachynlleth, rhwng Moel-y-llyn (521m) a'r Mynydd Du (447m). Mae'n llifo i gyfeiriad y gorllewin gan gasglu nifer o ffrydiau llai i lawr trwy Gwm Einion. Ger pentref bychan Ffwrnais Dyfi ceir olwyn fawr ar ei glan a ddefnyddid ar gyfer y ffwrnais yno. Llifa'r afon dan bont ar yr A487, rhwng Ffwrnais Dyfi ac Ysgubor-y-coed a thua milltir a hanner ar ôl hynny mae'n llifo i Afon Dyfi.

Yn y 12g adeiladwyd castell mwnt a beili a elwir Castell Aberdyfi (amrywiad: 'Castell Abereinion') ar ben crib isel yn rhedeg dros dir corsiog a amgylchynnir ar bob ochr gan Afon Dyfi ac Afon Einion, ger yr aber.