Dyfais a ddefnyddir i dwymo yw ffwrnais. Daw'r enw Cymraeg o'r gair Saesneg furnace sy'n tarddu yn ei dro o'r gair Lladin hynafol fornax (gair sy'n golygu "pobty" neu "ffwrn" yn ogystal â "ffwrnais"; Fornax oedd duwies y pobty ym mytholeg Rhufain Hynafol[1]).

Darluniau yn dangod gofeint arian o Tsieina yn toddu mwyn arian ac yn gwahanu plwm ohono: gwyddoniadur Tiangong Kaiwu (1637), gan Song Yingxing (1587-1666).
Erthygl am y ddyfais ddiwydiannol yw hon. Am y pentref yng Ngheredigion gweler Ffwrnais, Ceredigion. Am yr ardal yn Llanelli gweler Ffwrnais, Llanelli.
Bara wedi coginio mewn ffwrn hynafol yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant; llun gan Geoff Charles, Ionawr 1955.

Yn yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd eraill mae'r gair yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio systemau twymo tai ac weithiau fel term am odyn. Yng Nghymru a sawl gwlad arall cyfeiria 'ffwrnais' at ffwrneisiau diwydiannol a ddefnyddir at sawl pwrpas, e.e. i dynny metel o fwyn (smeltio) neu mewn purfeydd olew a safleoedd cemegol eraill.

Gall yr ynni gwres i danio ffwrnais gael ei gyflenwi gan danio tanwydd yn uniongyrchol, gan drydan, neu drwy wres a dynnir drwy bibellau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Casell's Latin Dictionary (25ain argraffiad, Llundain, 1948).
  Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.