Cymuned yng ngogledd Ceredigion yw Ysgubor-y-coed. Saif o gwmpas glan ddeheuol Afon Dyfi, yn y rhan fwyaf gogleddol o Geredigion. Llifa Afon Einion trwy'r gymuned.

Ysgubor-y-coed
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth310 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,230.86 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.53437°N 3.91866°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000405 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Ffwrnais, Glandyfi ac Eglwys-fach. Ceir gweddillion castell mwnt a beili Domen Las (Castell Aberdyfi) ar lan Afon Dyfi, castell o godwyd gan Rhys ap Gruffudd yn y 12g. Yn y gymuned hefyd mae Gwarchodfa adar Ynys-hir, sy'n eiddo i'r RSPB. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 293.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ysgubor-y-coed (pob oed) (310)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ysgubor-y-coed) (125)
  
42.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ysgubor-y-coed) (142)
  
45.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Ysgubor-y-coed) (55)
  
39%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]