Roedd cantref Pebidiog yn un o saith gantref teyrnas Dyfed, yn ne-orllewin Cymru. Roedd yn cynnwys safle Tyddewi, canolfan eglwysig bwysicaf y wlad. Heddiw mae tiriogaeth Pebidiog yn gorwedd yng ngogledd-orllewin Sir Benfro; dyma'r darn o dir mwyaf gorllewinol yng Nghymru.

Cadeirlan Tyddewi

Mae gan gantref Pebidiog arfordir hir ar Fae Ceredigion a Bae Sain Ffraid a nodweddir gan glogwynni a baeau bychain niferus. I'r dwyrain roedd afon Gwaun yn ffurfio ffin naturiol. Ffiniai Pebidiog â thri chantref arall yn Nyfed, sef Cemais i'r dwyrain a Daugleddau a Rhos i'r de. Cantref a nodweddir gan dir creigiog a rhosdiroedd ydyw, gyda lleiniau bychain o dir amaethyddol.

Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd, sef :

Canolfan bwysicaf y cantref oedd Tyddewi (Mynyw neu Menevia), safle Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chanolfan cwlt Dewi Sant. Tyrrai pererinion o bob cwrdd o'r wlad a'r tu hwnt i Dyddewi ar hyd llwybrau pererin. Roedd dylanwad gwleidyddol Tyddewi yn fawr yn ogystal, ac ymddengys mai esgobion Tyddewi oedd arglwyddi'r cantref yn y cyfnod cynnar ; enwir un o'r ddau gwmwd ar ôl Tyddewi (Cwmwd Mynyw).

Cyfeiriadau

golygu
  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)

Gweler hefyd

golygu