Afon yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Afon Hen. Mae'n llifo i'r môr ger Clynnog Fawr. Ei hyd yw tua 2 filltir.

Afon Hen
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Mae tarddle Afon Hen yn gorwedd yng nghorsdir mynyddig Cors-y-ddalfa, tua 310 meter i fyny rhwng bryniau Bwlch Mawr (509 m) a Gyrn Ddu (522 m) ger arfordir gogleddol penrhyn Llŷn tua 2 filltir i'r de o Glynnog Fawr.[1]

Yn agos i darddle'r afon, ar lethrau Gyrn Ddu, ceir dwy garnedd gynhanesyddol sy'n dyddio o Oes yr Efydd.

Llifa'r afon ar gwrs i gyfeiriad y gogledd-orllewin drwy goedwig Cwm Gwared. Ceir olion hen waith mwyngloddio am fanganîs yma. Tua milltir i'r dwyrain o Glynnog Fawr mae hi'n mynd dan Bont y Felin ar y briffordd A499. Tua chwarter milltir ar ôl hynny mae'r afon yn aberu ym Mae Caernarfon.[1]

 
Afon Hen ger tarddle Afon Hen
 
Ger Pont y Felin

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Map OS Landranger 1:50,000 Taflen 123.