A499
Priffordd yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru, yw'r A499. Mae'n cychwyn o'r A487 ger Llanwnda, ychydig i'e de o Gaernarfon, ac yn arwain tua'r de-orllewin ar hyd yr arfordir hyd nes cyrraedd at droed Yr Eifl, lle mae'n troi tua'r de oddi wrth y môr gerllaw pentref Trefor, sydd fymryn i'r gogledd o'r briffordd. Wedi cyrraedd Pwllheli mae'n troi tua'r de-orllewin ar hyd arfordir deheuol Penrhyn Llŷn, i orffen yn Abersoch.
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9711°N 4.4009°W |
Hyd | 23.4 milltir |
Lleoedd ar neu ger yr A499
golyguWedi eu rhestru o'r gogledd i'r de.
- Llanwnda
- Llandwrog
- Pontllyfni
- Aberdesach
- Clynnog Fawr
- Gyrn Goch
- Trefor (fymryn i'r gogledd)
- Llanaelhaearn
- Y Ffôr
- Pwllheli
- Penrhos
- Llanbedrog
- Abersoch