Gyrn Ddu
Bryn ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Gyrn Ddu (hefyd: Gurn Ddu ar y map OS). Saif i'r dwyrain o bentref Trefor ac i'r gogledd-ddwyrain o Lanaelhaearn. Mae copa arall ychydig yn is, sef Gyrn Goch, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Gyrn Ddu; cyfeiriad grid SH401467. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 137metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 522 metr |
Cyfesurynnau | 52.9945°N 4.3837°W |
Cod OS | SH4011846788 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 386 metr |
Rhiant gopa | Gyrn Ddu |
Ceir carneddi o Oes yr Efydd ac olion tai o Oes yr Haearn ar y mynydd. Ar ei lechweddau dwyreiniol, mae olion nifer o hen chwareli ithfaen.
Mae Afon Erch yn tarddu ar lethrau deheuol Gyrn Ddu ac mae tarddle Afon Hen i'w gael yng Nghors-y-ddalfa rhwng Gyrn Ddu a Bwlch Mawr, i'r dwyrain.
Y copa
golyguDosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 522m (1713tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd
golyguDolennau allanol
golygu- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback