Deddf Llywodraeth Leol 1972

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddiwygiodd llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr yw Deddf Llywodraeth Leol 1972. Daeth i rym ar 1 Ebrill 1974.

Creodd y Ddeddf batrwm llywodraethu a chanddo ddwy haen. Rhoddwyd rhai pwerau a chyfrifoldebau i'r haen uchaf – y siroedd – a rhai eraill i'r haen isaf – y dosbarthau (neu "ardaloedd" yn Lloegr). Yn nodweddiadol roedd y cynghorau sir yn gyfrifol am wasanaethau megis addysg, gwasanaethau cymdeithasol a ffyrdd, tra oedd y cynghorau dosbarth yn gyfrifol am wasanaethau megis casglu gwastraff, cynllunio lleol a thai cyngor.

Cynhaliwyd etholiadau i'r awdurdodau newydd ym 1973, ac roeddent yn gweithredu fel "awdurdodau cysgodol" tan y dyddiad trosglwyddo.

Cymru golygu

Yng Nghymru, crëwyd wyth sir newydd (Clwyd, De Morgannwg, Dyfed, Gorllewin Morgannwg, Gwent, Gwynedd, Morgannwg Ganol a Phowys), pob un ag dosbarthau newydd oddi tani.

Newidiwyd y drefn hon yn llwyr o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1996. Disodlwyd y drefn ddwy-haen gan drefn un-haen o 22 o awdurdodau unedol.

Lloegr golygu

Yn Lloegr, dynodwyd chwe sir (De Swydd Efrog, Glannau Merswy, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gorllewin Swydd Efrog, Manceinion Fwyaf a Tyne a Wear) yn siroedd metropolitan; dynodwyd eraill (yn cyfateb yn fras i'r hen siroedd gweinyddol) yn siroedd an-fetropolitan. Dynodwyd israniadau'r siroedd metropolitan ym mwrdeistrefi metropolitan; dynodwyd israniadau'r siroedd an-fetropolitan yn ardaloedd an-fetropolitan.

Mewn rhannau helaeth o Loegr, mae'r patrwm a nodir uchod yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw, er i'r cynghorau sir fetropolitan gael eu diddymu ym 1986, ac yn y 1990au ac wedyn disodlwyd nifer o ardaloedd an-fetropolitan gan awdurdodau unedol, sy'n cyfuno pwerau ardaloedd an-fetropolitan a chynghorau sir.