Koblenz
Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yn yr Almaen yw Koblenz (Coblenz yn yr hen sillafiad), Saif ar afon Rhein lle mae Afon Moselle yn ymuno â hi, 92 km i'r de-ddwyrain o ddinas Cwlen. Roedd y boblogaeth yn 2006 tua 106,000.
Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, endid tiriogaethol gweinyddol, urban district of Rhineland-Palatinate, prif ddinas ranbarthol |
---|---|
Poblogaeth | 115,268 |
Pennaeth llywodraeth | David Langner |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Nevers, Haringey, Norwich, Maastricht, Novara, Austin, Petah Tikva, Varaždin, Maseru, Chengdu, Haskovo, Rouen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rheinland-Pfalz |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 105.25 km² |
Uwch y môr | 73 metr |
Gerllaw | Afon Rhein, Afon Moselle |
Yn ffinio gyda | Westerwaldkreis, Rhein-Lahn-Kreis, Mayen-Koblenz |
Cyfesurynnau | 50.3597°N 7.5978°E |
Cod post | 56001–56077 |
Pennaeth y Llywodraeth | David Langner |
Saif Koblenz ar ben gogleddol y rhan o ddyffryn afon Rhein sydd wedi ei gyhoeddi'n Safle Treftadaeth y Byd.
Hanes
golyguSefydlwyd Koblenz yn y cyfnod Rhufeinig, pan sefydlodd Drusus wersyll milwrol yma tua 8 CC dan yr enw Castellum apud Confluentes. Dathlodd y ddinas ei 2000 mlwyddiant yn 1992. Gellir gweld olion pont Rufeinig a adeiladwyd yn 49 OC.
Yn y Canol Oesoedd, cipiwyd y ddinas gan y Ffranciaid. Yma y cynhaliwyd y trafodaethau a arweiniodd at arwyddo Cytundeb Verdun yn 843. Anrheithiwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 882. Yn 1018, daeth yn eiddo Archesgob Trier.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Basilica Sant Castor (eglwys)
- Castell Stolzenfels
- Ehrenbreitstein
- Fernmeldeturm Kühkopf
- Goloring
Enwogion
golygu- Anton Diffring (1918-1989), actor
- Valéry Giscard d'Estaing (g. 1926), Arlywydd Ffrainc 1974-81