Afon Mras-Su
Afon yn Rwsia yw Afon Mras-Su (Rwseg: Мрас-Су, Shor: Прас), sy'n llifo trwy Oblast Kemerovo yn Siberia. Mae'n un o lednentydd chwith Afon Tom (sydd yn ei thro yn llednant i Afon Ob), ac mae ei tharddle yn gorwedd ym Mynyddoedd Sayan (rhan gogleddol o'r Mynyddoedd Altai). Ei hyd yw 338 km, gyda basn o 8,840 km².
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Kemerovo |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 53.7486°N 87.7986°E, 52.1708°N 88.4731°E, 53.7486°N 87.7986°E |
Aber | Afon Tom |
Llednentydd | Kizas, Uzas, Shodrova, Pyzas, Q3725594, Q3725610, Q3725619, Q3725671, Q3725727, Kyzas, Q3725914, Orton, Q3726139, Q3726145, Q3726170, Mzas, Maly Kendas, Malaya Sueta, Q3726646, Bolshaya Sueta, Bolshoy Kendas, Kazas, Q3726749, Ayzas, Kabyrza, Q3726908, Bolshoy Toz, Q3726981, Q3726988, Q3727256, Bolshoy Kiyzas, Q3727286, Kiyzak, Q3727672, Kamzas, Bol'shoy Unzas |
Dalgylch | 8,840 cilometr sgwâr |
Hyd | 338 cilometr |
Arllwysiad | 173 metr ciwbic yr eiliad |
Ceir nifer o droeon a dŵr gwyn ar rannau uchaf yr afon. Ar ôl llifo am 338 km trwy Oblast Kemerovo mae'n llifo i Afon Tom ger Myski (uchder 223 metr), tref a leolir ar Afon Tom, 30 km i lawr y dyffryn o Mejdouretchensk a 60 km i fyny o Novokouznetsk.
Dolenni allanol
golygu- (Rwseg) Mras-Su yn y Gwyddoniadur Mawr Sofietaidd.