Cadwyn o fynyddoedd yng nghanol Asia yw Mynyddoedd Sayan (Rwseg: Саяны; Mongoleg: Соёоны нуруу) sy'n gorwedd rhwng gogledd-orllewin Mongolia a de Siberia, Rwsia.

Mynyddoedd Sayan
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Rwsia Rwsia
Uwch y môr3,492 metr, 1,087 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2519°N 94.9744°E, 52.75°N 96°E Edit this on Wikidata
Map
"Y Garreg Sigl", Mynyddoedd Ergaki, Gorllewin Sayan

Fe'u rhennir yn ddwy ran. Mae'r mynyddoedd Sayan Dwyreiniol yn ymestyn am 1,000 km (621 milltir) o Afon Yenisei (92° Dw) i ben de-orllewinol Llyn Baikal yn Oblast Irkutsk (106° Dw). Mae'r Sayan Gorllewinol yn ffurfio estyniad i'r dwyrain o'r Mynyddoedd Altai, gan ymestyn am 500 km (311 milltir) o 89° Dw i ganol y Sayan Dwyreiniol at 96° Dw.

Mae'r mynyddoedd uchel a'r llynnoedd niferus a geir i'r de o weriniaeth Tuva yn darddle i'r llednentydd niferus sy'n ymuno'n is i lawr ar wastadedd Siberia i ffurfio Afon Yenisei, un o'r afonydd mwyaf yn Rwsia, sy'n llifo i'r gogledd am 2,000 km i aberu yng Nghefnfor yr Arctig.

Copa uchaf Mynyddoedd Sayan yw Monkh Saridag (3,492 m - 11,457 tr).

Dolen allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: