Afon Nerbioi
(Ailgyfeiriad oddi wrth Afon Nervión)
Afon yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Afon Nerbioi (Basgeg: Nerbioi, Sbaeneg: Nervión). Mae'n tarddu ger y ffîn rhwng taleithiau Burgos ac Araba. Heb fod ymhell o'i tharddiad mae'n ffurfio rhaeadr lle mae'r dŵr yn disgyn 270 medr. Llifa i mewn i dalaith Biskaia ger Orduña, ac yn Basauri, mae Afon Ibaizábal yn ymuno â hi. Mae'r ddwy afon yn ffurfio aber sy'n llifo trwy ddinas Bilbo, ac a adwaenir fel y Ría de Bilbao yn Sbaeneg.
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg ![]() |
Gwlad | Sbaen ![]() |
Cyfesurynnau | 43.325506°N 3.019372°W ![]() |
Tarddiad | Ibaizabal ![]() |
Aber | Bilbo ![]() |
Llednentydd | Asua river ![]() |
Dalgylch | 1,900 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 75.6 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 9.6 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |