Afon Neva
Afon fer yng ngogledd-ddwyrain Rwsia sy'n cysylltu Llyn Ladoga â Gwlff y Ffindir a Môr y Baltig yw Afon Neva (Rwsieg Невá / Neva). Mae'n llifo allan o Lyn Ladoga ger Shlisselburg, gan lifo i'r de-orllewin drwy ddinas St Petersburg. Ei hyd yw 74 km. Mae 28 km ohoni yn gorwedd y tu fewn i ddinas St Petersburg. Ei lled yw 400 i 600m ar gyfartaledd, gyda lled mwyaf o 1200m yn ei haber yn St Petersburg. Ei dyfnder ar gyfartaledd yw 8 i 11m.
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Unified Deep Water System of European Russia ![]() |
Sir | Oblast Leningrad, St Petersburg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 59.9567°N 31.0456°E, 59.9447°N 30.3094°E ![]() |
Tarddiad | Llyn Ladoga ![]() |
Aber | Neva Bay ![]() |
Llednentydd | Afon Mga, Afon Tosna, Afon Izhora, Afon Slavyanka, Afon Okhta, Afon Moyka, Afon Dubrovka, Duderhof Channel, Kronverksky Strait, Moyka, Murzinka, Svyatka, Spartak, Chyornaya Rechka, Utka, Chyornaya ![]() |
Dalgylch | 281,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 74 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 2,500 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd | Llyn Ladoga ![]() |
![]() | |
Mae'r cyfeirad cyntaf at yr afon yn ddyddio i 1240 a Brwydr Afon Neva, ysgarmes rhwng lluoedd Novgorod a Sweden. Bu'r Novogorodiaid yn fuddugol, ac fe gymerodd Tywysog Aleksandr, oedd yn eu harwain, y llysenw Nevsky ('o'r Neva') o ganlyniad.
Mae'r afon yn chwarae rôl amlwg mewn llawer o weithiau llenyddiaeth Rwsieg. Mae cerdd Pushkin, Medny vsadnik ('Y marchog efydd'), yn digwydd yn ystod llifogydd ar y Neva yn St Petersburg.