Afon yn Ne America yw afon Orinoco. Gyda hyd o 2,140 km, mae'n un o afonydd hwyaf y cyfandir. Mae tua thri chwarter o'i hyd yn Feneswela a'r chwarter arall yn Colombia.

Afon Orinoco
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladFeneswela, Colombia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau8.56°N 60.5°W, 2.318°N 63.3617°W Edit this on Wikidata
AberDelta Amacuro Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Ventuari, Afon Caura, Afon Caroní, Afon Meta, Afon Guaviare, Afon Apure, Afon Arauca, Afon Vichada, Afon Capanaparo, Afon Tomo, Afon Cinaruco, Afon Atabapo, Afon Parguaza, Afon Aro, Afon Cuchivero, Afon Cunucunuma, Afon Ocamo, Afon Manaviche, Afon Mavaca, Afon Padamo, Afon Suapure, Iyagüey River, Río Iguapo, Jenita River, Putaco River, Afon Sipapo, Río Ugueto, Yagua River Edit this on Wikidata
Dalgylch989,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,140 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad30,000 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Ceir tarddiad yr Orinoco ger Parima, gerllaw'r ffin rhwng Feneswela a Brasil. Llifa tua'r gofgledd i aberu yng yr Iwerydd. Dangosir yr Orinoco ar fap o 1529, ond dim ond yn y 18g y bu fforwyr yn teithio ar hyd yr afon, yn eu plith José Solano, Alexander von Humboldt ac Aimé Bonpland. Dim ond yn 1951 y cafwyd hyd i'w tharddle.

Un nodwedd anghyffredin yw fod yr Orinoco'n ymrannu'n ddau ran, un rhan, y Brazo Casiquiare, yn llifo i'r Río Negro, ac oddi yno i afon Amazonas pan fo lefel y dŵr yn uchel.

Dalgylch yr Orinoco
Pont dros yr Orinoco ger Ciudad Bolívar, Feneswela