Rio Negro (Amazonas)
Y Rio Negro (Portiwgaleg: Rio Negro, Sbaeneg: Río Negro, "Afon Ddu") yw'r mwyaf o'r afonydd sy'n llifi i mewn i Afon Amazonas o'r ochr chwith. Mae'n tarddu gerllaw ymylon dalgylch yr Orinoco, ac mae hefyd yn cysylltu a'r Orinoco trwy Gamlas Casiquiare. Mae'n llifo i mewn i'r Rio Solimões i ffurfio Afon Amazonas gerllaw Manaus, Brasil.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Brasil, Colombia, Feneswela |
Cyfesurynnau | 2.0014°N 67.1164°W, 3.1244°S 59.8956°W |
Aber | Afon Amazonas |
Llednentydd | Afon Branco, Casiquiare canal, Afon Aquio, Afon Içana, Bream, Afon Jauaperi, Afon Araçá, Afon Jaú, Afon Unini, Afon Puduari, Afon Vaupés |
Dalgylch | 720,114 cilometr sgwâr |
Hyd | 2,250 cilometr |
Arllwysiad | 30,000 metr ciwbic yr eiliad |
Gellir mynd a llongau bychain i fyny'r Rio Negro am tua 450 milltir, gyda dyfnder o tua 4 troedfedd. Fodd bynnag, yn y tymor sych mae'r banciau tywod yn broblem. Yn y tymor gwlyb, mae'r afon yn ymestyn dros ardal 20 milltir neu fwy o lêd.
Er gwaethaf yr enw, nid yw ei dyfroedd yn hollol ddu, yn hytrach mae'r lliw yn debyf i de. Daw'r lliw yma o'r dail sy'n disgyn i'r afon o'r fforestydd ar hyd ei glannau.