Afon Podkamennaya Tunguska
Afon yn Siberia, Rwsia yw Afon Podkamennaya Tunguska (Rwseg: Подкаменная Тунгуска, sef 'Tunguska-dan-y-cerrig', hefyd 'Tunguska Ganol' neu 'Tunguska Garregog') sy'n llifo yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk, Dosbarth Ffederal Siberia; mae'n un o lednentydd dwyreiniol Afon Yenisei a'i hyd yw 1,160 milltir (1,870 km). Basn: 240,000 km² (92,664 mi²).
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Irkutsk, Crai Krasnoyarsk |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 57.6873°N 104.3553°E, 61.5907°N 90.1261°E |
Aber | Afon Yenisei |
Llednentydd | Kamo, Velmo, Tetere, Afon Chunya |
Dalgylch | 240,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,865 cilometr |
Arllwysiad | 1,587.18 metr ciwbic yr eiliad |
Mor gynnar â 1610, roedd Rwsiaid o Mangazeya wedi teithio heibio i gymmer Afon Tunguska Garregog yn Afon Yenisei; erbyn y 1620au roedd Cosaciaid Mangazeya a helwyr wedi mynd i fyny'r afon yn ceisio croen a ffwr anifeiliaid gan y clanau Tungus.[1] Digwyddodd 'Ffrwydriad Tunguska' Mehefin 1908 ger yr afon hon, tua 8 km (5.0 milltir) i'r de o Llyn Cheko.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Fisher, Raymond Henry (1943). The Russian Fur Trade, 1550-1700. University of California Press.