Cosaciaid
Pobloedd o dras Slafaidd neu Dataraidd sydd yn siarad ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol ac yn Gristnogion Uniongred Dwyreiniol yw'r Cosaciaid a fu'n hanesyddol yn nomadiaid milwrol ym mherfeddwlad y Môr Du a Môr Caspia. Buont yn enwog fel gwŷr meirch ac yn derbyn breintiau oddi ar lywodraeth Rwsia am eu gwasanaeth milwrol.
Enghraifft o'r canlynol | cymuned ethnig, dosbarth cymdeithasol, ystadau'r deyrnas |
---|---|
Math | lluoedd milwrol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r enw yn y bôn o'r gair Tyrcig am "anturiaethwr" neu "ddyn rhydd", kazak. Defnyddiwyd yr enw yn gyntaf yn y 15g i gyfeirio at grwpiau lled-annibynnol o Datariaid yn rhanbarth Afon Dnieper. Erbyn diwedd y 15g, defnyddiwyd yr enw i ddisgrifio gwerinwyr a ffoesant o'u taeogaeth yn Nwyrain Ewrop i ranbarthau afonydd Dnieper a Don, ac yno sefydlwyd cymunedau milwrol hunanlywodraethol ganddynt. Yn ystod yr 16g bu chwe phrif lu o Gosaciaid: y Don (ger Afon Don), y Greben (yn y Cawcasws), yr Yaik (yng nghanol Afon Wral), y Volga (Afon Volga), y Dnieper (Afon Dnieper), a Zaporizhzhia (i orllewin y Dnieper). Rhennir y rheiny yn aml yn Gosaciaid Rwsiaidd, y lluoedd dwyreiniol a siaradant y Rwseg, a'r Cosaciaid Wcreinaidd yn y gorllewin sydd yn medru'r Wcreineg.
Tarddiad ac hanes yr enw
golyguAr ei ffurf gynharaf, kazak oedd enw'r Cosaciaid. Mae ambell ieithegwr wedi ceisio dangos cysylltiad rhwng kazak a'r Casachiaid, pobl Dyrcig o Ganolbarth Asia, neu Kasog, sef hen enw ar y Circasiaid yn y Cawcasws. Fodd bynnag, mae'n sicr i'r enw darddu o air Tyrco-Tatareg sydd yn golygu "anturiaethwr", a gafodd ei roi ar anrheithwyr Tataraidd yng ngwastadedd deheuol Rwsia a'r Wcrain. Defnyddiwyd yr enw yn gyntaf yn y 14g, mewn gorsafoedd masnachu'r Groegiaid o amgylch y Môr Du, i ddisgrifio'r anrheithwyr Tataraidd a oedd yn byw yn y berfeddwlad. Ceir sawl cyfeiriad o ail hanner y 14g at Gosaciaid Tataraidd yng ngwasanaeth tywysogaethau'r Rus', Teyrnas Pwyl, ac Uchel Ddugiaeth Lithwania. Ym 1444, bu Tywysogaeth Ryazan yn rheoli llu o Datariaid Kazan a adwaenai gan yr enw Cosaciaid Kasimov, ar ôl eu harweinydd. O 1468 mae tystiolaeth o Gosaciaid yn nhâl Uchel Ddugiaeth Moscfa a disgrifiad o waith Cosaciaid Moscfa a Ryazan fel milwyr y gororau, ac yn osgorddluoedd i dywys llysgenhadon a theithfinteioedd ar draws y gwastatir tuag at afonydd Don a Volga. Ym 1468 hefyd mae cyfeiriad at Ivan Runo, arweinydd Cosacaidd a chanddo enw Rwseg, ac o'r cyfnod hwn ymlaen byddai'r nifer fwyaf o Gosaciaid o dras Rwsiaidd ac Wcreinaidd yn hytrach na Thataraidd neu lwythau eraill.[1]
Yn y 15g a'r 16g, defnyddiwyd yr enw Cosac i gyfeirio at ddwy elfen wahanol yn y boblogaeth: y marchfilwyr ysgeifn afreolaidd. neu'r Cosaciaid rhydd, a fuont yn hebrwng teithwyr ac yn patrolio'r stepdiroedd deheuol am dâl; a Chosaciaid y dref, hurfilwyr unigol a chawsant eu recriwtio mewn cyffindrefi a rhagorsafoedd ar draws y gororau, mor bell â Smolensk, Pskov, Novgorod, Velikiye Luki, a Vologda. Rhoddwyd tir i rai o Gosaciaid y dref, am oes fel rheol, a buont yn ffermwyr yn ogystal â milwyr.[1]
Lluoedd y Cosaciaid Rwsiaidd
golyguMae'n debyg i'r Cosaciaid Rwsiaidd darddu o'r marchfilwyr afreolaidd a fyddai'n ymladd am dâl a ymfudasant i'r de-ddwyrain, y tu hwnt i ardal Cosaciaid y dref, yng nghanolbarth y Don. Ymddangosant ar stepdiroedd y Don yn sydyn, tua 1530, a thyfant yn gyflym. Ymhen fawr o dro, bu Uchel Ddugiaeth Moscfa, llu Tyrco-Fongolaidd y Nogai, a Chaniaeth y Crimea i gyd yn dwyn cyrchoedd ar diroedd y Cosaciaid. Roedd y Cosaciaid cynnar, yn debyg i'r Tatariaid, yn farchogion nomadaidd, yn hela, pysgota, a maglu anifeiliaid, ond yn byw ar y cyfan ar ysbail. Er iddynt gadw anifeiliaid ar grwydr, nid oeddynt yn ffermwyr, a buont yn cipio anifeiliaid oddi ar werinwyr ac yn anrheithio cymunedau gwledig yn ddiedifar. Ar gefn ei geffyl, yn dwyn crymgledd, gwaywffon, bwa a saeth, byddai'r Cosac ar herw y tu hwnt i afael y tywysogaethau cyfagos. Cafodd dynion eu gorfodi i ymuno â lluoedd y Cosaciaid, a merched eu cipio i fod yn wragedd neu ordderchiadon, pa beth bynnag eu llwyth neu ethnigrwydd. Byddai'r lluoedd yn amrywio yn eu maint, o ychydig o ddynion i liaws o filoedd.[2]
Bu nifer o'r Cosaciaid cynnar, gan gynnwys y penadur Sari-Asman, yn Datariaid, ac eraill yn tarddu o bobloedd eraill y Don. Fodd bynnag, daeth y mwyafrif o'r Cosaciaid newydd, a ymunodd yn wirfoddol â lluoedd y Don, o Rwsia Fawr, i'r gogledd. Ymfudasant i'r de, boed yn unigolion, teuluoedd, neu gymunedau bychain, i ddianc rhag taeogaeth. trethiant, tlodi a newyn yn nhywysogaethau'r Rus'. Roedd eraill yn droseddwyr ar ffo, neu yn ffoaduriaid o Weriniaeth Novgorod. Gyda'r recriwtiaid hyn, datblygodd y Cosaciaid Rwsiaidd yn bobl Rwseg eu hiaith ac yn Uniongred eu ffydd, ond yn annibynnol ar gyfraith y tsariaid.[2]
Cosaciaid y Don a'u disgynyddion
golygu- Prif: Cosaciaid y Don
Bu presenoldeb y Cosaciaid yn achosi gwrthdaro rhwng chanaethau Tataraidd y Crimea a Kazan, Llu'r Nogai, a Tsaraeth Rwsia. Er i'r Tsar Ifan IV eu diarddel a'u condemnio, fe a anosai'r Cosaciaid i ymdreiddio i'r de-ddwyrain. Ym 1570, yn ystod y rhyfel rhwng y tsaraeth a Chanaeth y Crimea, apeliodd Ifan yn gyhoeddus at y Cosaciaid Rwseg, Cristnogol i uno er mwyn gwrthsefyll y Tatariaid Kipchak, Mwslimaidd, a noddodd penaduriaid milwrol i'w harwain. Ymgyfunodd nifer o'r mân-luoedd Cosacaidd yn rhanbarth y Don dan yr arweinyddiaeth newydd, er mwyn elwa ar yr arian a nwyddau a gynigwyd gan y Rwsiaid, a chaiff 1570 felly ei ystyried yn flwyddyn enedigol Llu Cosaciaid y Don.[2]
Er i ethnogenesis Cosaciaid y Don ddibynnu ar eu gwasanaeth yn erbyn y Tatariaid, a'u cysylltiadau â'r Rwsiaid, cafodd etifeddiaeth Dataraidd y Cosaciaid cynnar ddylanwad mawr ar eu cymdeithas a'u diwylliant. Benthycwyd nifer o eiriau Tatareg i'w dafodiaith Rwseg, gan gynnwys ataman (penadur) a yassak (arian teyrnged), a mabwysiadant wisg Dataraidd a'r faner gynffon ceffyl a ddefnyddiwyd fel symbol o awdurdod gan y Tatariaid.[3] Daeth arferion a chyfraith Cosaciaid y Don yn gyffredin i'r mwyafrif o Gosaciaid Rwseg, ac hefyd i nifer o'r Cosaciaid Wcreineg i'r gorllewin.
Yn sgil cytundeb Cosaciaid y Don i uno a brwydro dros Ifan IV am dâl, symudasant o'u canolfan yn Razdorskaya tua'r de i'w prifddinas newydd yn Cherkassk.[4] Nid oedd modd i deuluoedd Cosacaidd dreulio'r holl aeaf ar y stepdiroedd agored, ac o'r herwydd codwyd gwersylloedd caerog o'r enw stanitsi (heidiau) ar lannau'r afonydd er mwyn bwrw'r gaeaf, ac yn pysgota am eu bwyd. Byddai rhai ohonynt yn cludo eu cychod ar draws y culdir, deugain milltir ei led, rhwng y Don a'r Volga. Hwyliasant i lawr y Volga i Fôr Caspia, ac i fyny Afon Yaik. Trodd ambell griw at fôr-ladrad, gan ysbeilio'r aneddiadau Tataraidd a Thyrcig o amgylch Môr Caspia a'r Môr Du.[3]
Arweiniwyd pob un stanitsa gan ataman a etholwyd gan gylch o'r enw krug, a phob un dyn Cosacaidd yn meddu ar yr hawl i fynychu ac annerch krug ei stanitsa. Yn wleidyddol, nodweddwyd cymdeithasau Cosaciaid y Don gan drefn ddemocrataidd (i ddynion) a chymydol a chyfraith awdurdodaidd a orfodwyd ar bobloedd eraill yn y diriogaeth Gosacaidd. Perchnogwyd ar y tir yn gyffredin, ac nid oedd gan y Cosaciaid cynnar yr hawl unigol i eiddo preifat. O ran yr economi, manteisiodd y Cosaciaid ar yr helfilod, pysgod, porfeydd, ac adnoddau eraill a oedd yn helaeth ym masn y Don a'r stepdiroedd, ac felly ni châi masnach ei datblygu yn yr ardal. Mewnforiwyd grawn yn rhan o gymorthdaliadau'r Tsar Ifan IV i'r Cosaciaid, ac felly am gyfnod gwaharddwyd pob ffurf ar amaeth ymhlith Cosaciaid y Don. Fodd bynnag, datblygwyd y pantiau heli yn neheudir y Don er mwyn casglu halen i gadw pysgod.[3]
Cosaciaid y Volga
golyguYmsefydlai Cosaciaid o ardal y Don i'r dwyrain, ar lannau'r Volga ac ar yr ynysoedd yng nghanol yr afon, erbyn y 16g. Hwyliasant ar hyd Afon Volga i Fôr Caspia gryn amser cyn i lynges y Tsar Ifan IV gludo milwyr Rwsiaidd i'r de i orchfygu Astrakhan yn y 1550au. Wedi i'r Rwsiaid gipio holl diriogaeth y Volga oddi ar y Tatariaid, bwriadwyd ymgorffori tiroedd y Cosaciaid yn rhan o Tsaraeth Rwsia. Er i'r Cosaciaid darparu rhywfaint o gymorth i'r Rwsiaid wrth iddynt oresgyn ardal y Caspia, buont yn ysbeilio llongau masnachol ar hyd y Volga, ac oherwydd eu môr-ladrad gorchmynnai'r Tsar Ifan i'w filwyr chwalu neu ddifa Cosaciaid y Volga. Erbyn 1577, cawsant eu clirio o lannau ac ynysoedd y Volga gan luoedd Rwsia, a dinistriwyd holl amddiffynfeydd ac aneddleoedd y Cosaciaid.[5]
Aeth Cosaciaid y Volga ar ffo, a dychwelodd rhai ohonynt i'r Don. Ymunodd eraill â Chosaciaid a oedd yn barod yn ardal yr Yaik, yng nghanol Afon Wral, gan ffurfio llu Cosaciaid yr Yaik. Aeth eraill yn eu cychod i fyny'r Volga ac ar hyd ei llednant, Afon Kama, i Fynyddoedd yr Wral a thu hwnt, a byddai'r rheiny yn ffurfio llu Cosaciaid Siberia. Ymfudodd gweddillion llu'r Volga tua'r de, gan groesi Môr Caspia a hwylio i fyny Afon Terek, i odreon Mynyddoedd y Cawcasws. Sefydlasant eu gwersylloedd yno, ar lannau'r Terek, i ffurfio llu Cosaciaid y Terek.[5]
Cosaciaid yr Yaik
golyguAeth Cosaciaid yr Yaik yn annibynnol ar Lu'r Don ym 1591; cyn hynny, byddent yn dwyn materion pwysig i sylw arweinwyr y Don yn hytrach nag arfer ymreolaeth. Ym 1613 cydnabuwyd penarglwyddiaeth y Tsar Mikhail, y cyntaf o frenhinllin y Romanov, drwy ddarparu milwyr iddo yn gyfnewid am arian, powdwr gwn, a phlwm.[6]
Cosaciaid y Terek
golyguSefydlwyd aneddiadau cynharaf y Cosaciaid ar lannau Afon Terek, ym mryniau godre'r Cawcasws, tua 1577. Ymhen fawr o dro, buont yn ysgarmesu â'r amryw nomadiaid a llwythau mynyddig o'u hamgylch, gan gynnwys y Circasiaid, y Cabardiaid, y Tsietsniaid, a'r Nogai. Ychwanegwyd at niferoedd Llu'r Terek gan ddynion a merched a gipiwyd neu recriwtiwyd o grwpiau ethnig eraill, a chyflwynant wisgoedd nodweddiadol y Cawcasws i'r Cosaciaid. Ym 1586 codwyd caerau ger aber y Terek gan luoedd Rwsiaidd, ac ers hynny byddai Llu'r Terek yng ngwasanaeth y Tsar fel pysgotwyr, gwarchodlu'r gororau, ac hurfilwyr. Derbyniasant filwyr ychwanegol o Gosaciaid y Greben.[6]
Cosaciaid y Greben
golyguYmsefydlodd Cosaciaid y Greben yn y cribau mynyddig ar hyd Afon Terek yn niwedd y 15g, naill ai Cosaciaid y Don o'r ardal rhwng afonydd Donets a Kalitva neu Gosaciaid y dref o Dywysogaeth Ryazan. Lleolwyd eu haneddiadau ar lannau dde Afon Sunzha, ger safle Grozny yn Tsietsnia, ac ymbriodasant â'r Circasiaid a phobloedd eraill o'r Cawcasws.[6]
Lluoedd y Cosaciaid Wcreinaidd
golyguGwahanwyd y Cosaciaid Rwsiaidd a'r Cosaciaid Wcreinaidd gan iaith yn bennaf.
Cosaciaid Zaporizhzhia
golygu- Prif: Cosaciaid Zaporizhzhia
Roedd y Cosaciaid Wcreinaidd cyntaf yn byw yn rhanbarth Zaporizhzhia, i dde rhaeadrau Afon Dnieper. Yno, yn y cyfnod 1530–50, ymgynullodd y Cosaciaid rhydd mewn tiriogaeth yng ngororau eithaf Teyrnas Pwyl (a fyddai'n uno ag Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1569 i ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd). Adeiladasant bencadlys mewn llannerch (sich neu sech) yn y corstiroedd coediog o amgylch hen gaer ar un o ynysoedd y Dnieper. Ymledodd aneddiadau'r Llu Zaporizhzhiaidd oddi yno, gan ffurfio lled-wladwriaeth awtonomaidd i raddau a elwir Sich Zaporizhzhia, a fodolai am ryw ddeucan mlynedd.[7]
Byddai marchogion Zaporizhzhia yn crwydro'r stepdiroedd, yn brwydro'r Tatariaid ac yn chwilio am ysbail, weithiau yn dwyn cyrchoedd mawr ar Chanaeth y Crimea a Thywysogaeth Moldafia. Byddai'r badwyr a'r pysgotwyr yn hwylio i lawr y Dnieper i ysbeilio a llosgi aneddiadau'r Tyrciaid ar lannau'r Môr Du. Gwisgodd Cosaciaid Zaporizhzhia ddillad lliwgar yn y dull Tataraidd, a byddent yn eillio'u pennau a'u hwynebau gan adael penclymau a mwstashis hirion.[7]
Roedd cymdeithas a nodweddion Llu Zaporizhzhia yn debyg iawn i Lu Rwsiaidd y Don, a bu'r ddau lu yn aml yn cynorthwyo'i gilydd yn filwrol. Y prif wahaniaeth rhyngddynt, ar wahân i'r iaith, oedd natur wrywol yn unig Sich Zaporizhzhia.[7] Urdd filwrol bur oedd Llu Zaporizhzhia, a barics oedd eu cytiau, a ni chaniateid i ferched fyw yn y Sich. Yn wahanol i Gosaciaid y Don, a fyddai'n cael teuluoedd mawr mewn cymunedau ethnig gyda'i gilydd, byddai brwydrwyr unigol y Sich yn ymuno â'r llu ar liwt eu hunain, yn gwasanaethu am ychydig dymhorau neu flynyddoedd, ac yna'n ymsefydlu ac yn amaethu ar gyrion y Sich, dan awdurdod Llu Zaporizhzhia ond y tu allan i ffiniau'r urdd ei hun. O ganlyniad i'r drefn hon, byddai'r gwerinwyr yn y rhanbarth hwn yn ymddiwylliannu â'r Cosaciaid. Daeth y mwyafrif o recriwtiaid y Sich o ardal ganolog y Dnieper, ac yn ôl cofrestr o 1581 roedd 83% o'r llu o dras Wcreinaidd neu Felarwsiaidd, rhyw 10% yn Bwyliaid, a'r gweddill yn Datariaid, Moldafiaid, Circasiaid, Serbiaid, Lifoniaid, ac Almaenwyr. Dim ond ychydig fach iawn o Rwsiaid ethnig oedd yn ymaelodi â Llu Zaporizhzhia. Erbyn 1621 roedd rhyw 40,000 o frwydrwyr yn y llu hwn, gan gynnwys milwyr ychwanegol o Gosaciaid Wcreinaidd eraill.[8]
Y Cosaciaid Cofrestredig
golyguRhoddwyd yr enw "Cosaciaid Cofrestredig" ar unedau milwrol a ffurfiwyd yn gyntaf ym 1572 yn sgil creu'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Mae'n debyg taw Cosaciaid y dref a drefnwyd yn warchodluoedd gan Deyrnas Pwyl oedd y cyntaf o'r hurfilwyr hyn. Roedd eraill yn gyn-filwyr o Lu Zaporizhzhia, yn Wcreiniaid a gafodd eu Cosaceiddio dan awdurdod y Sich, ac yn grwpiau annibynnol a oedd yn amddiffyn yr aneddiadau rhwng y Dnieper a'r Don rhag y pendefigion (szlachta) a'r Tatariaid. Byddai'r Pwyliaid hefyd yn recriwtio marchfilwyr Wcreinaidd yn rhan o'u unedau Cosacaidd, ac ym 1578 penodwyd hetman i'w harwain.[8]
Ym 1648 gwrthryfelodd y Cosaciaid, dan arweiniad Bohdan Khmelnytsky, Hetman Llu Zaporizhzhia, yn erbyn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, a daeth y Cosaciaid Cofrestredig i ben. Ffrwydrodd y gwrthdaro yn rhyfel chwerw ar draws yr Wcráin, gan dynnu'r gwerinwyr Wcreinaidd i mewn i'r frwydr yn erbyn tra-arglwyddiaeth y szlachta. Datblygodd elfen grefyddol i'r helyntion, gan beri ymrysonau rhwng Cristnogion Catholig ac Uniongredd a phogromau yn erbyn yr Iddewon. Ymunodd hen elyn y Cosaciaid, Chanaeth y Crimea, ag achos Khmelnytsky yn erbyn y Pwyliaid. Erbyn diwedd y gwrthryfel ym 1657, bu tiroedd dwyrain yr Wcráin (taleithiau Kiev, Bratslav, a Chernigov) dan benarglwyddiaeth Rwsia, a chafodd Iddewon a Phwyliaid a Catholigion eraill eu bwrw allan o'r diriogaeth.[9]
Ffynonellau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Albert Seaton, The Cossacks (Reading, Berkshire: Osprey, 1972), t. 7.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Seaton, The Cossacks (1972), t. 8.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Seaton, The Cossacks (1972), t. 10.
- ↑ Seaton, The Cossacks (1972), t. 9.
- ↑ 5.0 5.1 Seaton, The Cossacks (1972), t. 11.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Seaton, The Cossacks (1972), t. 15.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Seaton, The Cossacks (1972), t. 12.
- ↑ 8.0 8.1 Seaton, The Cossacks (1972), t. 13.
- ↑ Seaton, The Cossacks (1972), t. 14.
Llyfryddiaeth
golygu- W. P. Cresson, The Cossacks: Their History and Country (Efrog Newydd: Brantano's, 1919).
- Albert Seaton, The Cossacks (Reading, Berkshire: Osprey, 1972).