Afon Porth-llwyd
Afon yn Eryri, gogledd Cymru yw Afon Porth-llwyd. Gorwedd yn Sir Conwy. Ei hyd yw tua 6 milltir.
![]() Afon Porth-llwyd uwchben Dolgarrog. | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1911°N 3.8492°W ![]() |
![]() | |
Mae'r afon yn tarddu yn Llyn Eigiau yn y Carneddau. O'r llyn hwnnw mae Afon Porth-llwyd yn llifo allan i lawr rhan isaf Cwm Eigiau i Gronfa Coedty cyn basio dan Bont Newydd yn Nolgarrog. Yna mae'n llifo i Afon Conwy fymryn i'r dwyrain o'r pentref.
Mae dŵr yr afon yn cael ei ddefnyddio i greu trydan dŵr ar gyfer ffatri alcam Dolgarrog.