Dolgarrog

pentref a chymuned yn Sir Conwy a Dyffryn Conwy

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolgarrog.[1][2] Saif ar ffordd y B5106 ar hyd glan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tal-y-bont a Threfriw.

Dolgarrog
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth446, 429 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,479.56 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.191°N 3.844°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000115 Edit this on Wikidata
Cod postLL32 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auClaire Hughes (Llafur)
Map

Mae Afon Porth-llwyd, sy'n llifo o Lyn Eigiau a thrwy gronfa ddŵr Coedty, yn ymuno ag Afon Conwy ger rhan ogleddol y pentref, tra mae Afon Ddu, sy'n llifo o Lyn Cowlyd, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw'r rhan ddeheuol. Mae gorsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ar yr ochr arall i'r afon, a phont i gerddwyr yn ei chysylltu â'r pentref.

Argae Llyn Eigiau. Gellir gweld olion y twll yn yr argae a ddechreuodd y difrod yn 1925.

Nodir fod melin flawd ar Afon Porthlwyd yn y 18g. Dechreuwyd cynllunio y gwaith aliwminiwm yma yn 1895, ac agorwyd y gwaith yn 1907. Mae'n defnyddio trydan dŵr. Mi r'oedd y ffatri yn eiddo i Dolgarrog Aluminium Ltd ac ar hyn o bryd wedi ei gau.

Ar 2 Tachwedd, 1925, torrodd argae Llyn Eigiau, ac o ganlyniad i'r dŵr yn rhuthro i lawr y llethrau i gronfa Coedty, torrwyd yr argae yma hefyd. Boddwyd 16 o bobl yn Nolgarrog. Agorwyd llwybr coffa yn 2004 yn mynd heibio mannau arwyddocaol ac yn egluro'r digwyddiad.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dolgarrog (pob oed) (446)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolgarrog) (200)
  
46.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolgarrog) (319)
  
71.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolgarrog) (80)
  
41%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel luniau

golygu

Cadwraeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.