Afon Santa Cruz, Arizona
Afon yn ne Arizona, UDA (yn bennaf) a gogledd Sonora, Mecsico, yw Afon Santa Cruz.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Arizona |
Gwlad | Mecsico UDA |
Cyfesurynnau | 31.4861°N 110.6522°W, 33.2561°N 112.1883°W |
Tarddiad | San Rafael Valley |
Aber | Afon Gila |
Llednentydd | Sonoita Creek, Cañada del Oro |
Hyd | 296 cilometr |
Gorwedd tarddle'r Santa Cruz yn ucheldiroedd Dyffryn San Rafael i'r dwyrain o Batagonia rhwng Bryniau Canelo i'r dwyrain a Mynyddoedd Patagonia i'r gorllewin, fymryn i'r gogledd o'r ffina rhwng UDA a Mecsico. Mae'n llifo i gyfeiriad y de i Mecsico ac yna'n troi i'r gorllewin ac yn llifo yn ôl i UDA ger Nogales. Oddi yno mae'n llifo i'r gogledd a heibio Parc Cenedlaethol Hanesyddol Tumacacori, Tubac, Green Valley, Sahuarita, San Xavier del Bac, a dinas Tucson i'r Santa Cruz Flats i'r de o Casa Grande ac Afon Gila. Rhwng Nogales a Tucson mae dyffryn y Santa Cruz yn gorwedd rhwng Mynyddoedd Patagonia a Mynyddoedd Santa Rita i'r dwyrain a mynyddoedd Tumacacori a Mynyddoedd Sierrita i'r gorllewin.
Fel rheol mae gwely Afon Santa Cruz yn sych trwy'r rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac eithrio adegau o law trwm. Canlyniad gwaith dyn yn y 19eg ganrif sy'n bennaf gyfrifol am gyflwr sych y Santa Cruz heddiw.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Santa Cruz River Initiative, Sonoran Instutute, http://www.sonoraninstitute.org/where-we-work/southwest/santa-cruz-river.html, adalwyd 01/06/2012