Sonora
Un o 31 talaith ffederal Mecsico, sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin â'r Unol Daleithiau, yw Sonora. Mae ganddi boblogaeth o 2,839,989 (2000).
Math | talaith Mecsico |
---|---|
Prifddinas | Hermosillo |
Poblogaeth | 2,850,330 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Claudia Pavlovich Arellano |
Cylchfa amser | UTC−07:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Northern Mexico |
Gwlad | Mecsico |
Arwynebedd | 179,503 km² |
Uwch y môr | 592 metr |
Yn ffinio gyda | Chihuahua, Arizona, Mecsico Newydd, Baja California |
Cyfesurynnau | 29.83°N 110.95°W |
Cod post | 83-85 |
MX-SON | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Congress of Sonora |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Sonora |
Pennaeth y Llywodraeth | Claudia Pavlovich Arellano |
Golchir arfordir 1,208 km Sonora gan Môr Cortez, sy'n rhan o Gwlff California, sy'n ei chysylltu â'r Cefnfor Tawel i'r de. Mae Sonora yn ffinio â thalaith Chihuahua i'r dwyrain, Sinaloa i'r de a Baja California i'r gogledd-orllewin; i'r gogledd mae ganddi ffin hir ag Arizona ac un llai â New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Dros Gwlff California i'r gorllewin mae ganddi ffin forol â Baja California Sur. Sonora yw'r dalaith ail fwyaf ym Mecsico (184,934 km²), gyda 9.2% o arwynebedd y wlad.
Y prif dirweddau yw: Sierra Madre Occidental, Mynyddoedd a Dyffrynnoedd Parallel, Anialwch Sonora, ac arfordir Gwlff California. Cadwyn y Sierra Madre oedd un o gadarnleoedd Geronimo ac Apache Chiricahua eraill yn y 1880au.
Prif ddinasoedd
golygu- Hermosillo 707,890
- Ciudad Obregón 375,800
- Nogales 290,759
- Guaymas 101,505 (heb gynnwys Empalme)
- Navojoa 163,312
- San Luis Río Colorado 138,796