Afon yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen a phrif isafon yr Havel yw Afon Spree (Almaeneg: Spree, Sorbeg: Sprjewja, Tsieceg: Spréva) sy'n tarddu o ranbarth Lwsatia, nid nepell o'r ffin â Tsiecia, ac yn llifo i'r gogledd drwy daleithiau Sacsoni a Brandenburg cyn terfynu yn ninas Berlin. Mae ganddi hyd o 250 milltir (403 km), a dalgylch o 3,900 milltir sgwâr (10,100 km2).[1]

Spree
Mathafon Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGörlitz, Šluknov, Ardal Bautzen, Brandenburg, Berlin
Cysylltir gydaCamlas Westhafen, Charlottenburg Canal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGörlitz, Šluknov, Ardal Bautzen, Brandenburg, Berlin Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau51.00961°N 14.64931°E, 52.5361°N 13.2089°E Edit this on Wikidata
TarddiadEbersbach Edit this on Wikidata
AberHavel Edit this on Wikidata
LlednentyddBerste, Dahme, Schwarzer Schöps, Löbauer Wasser, Wuhle, Panke, Q28055642, Q28029219, Butterwasser, Q28078072, Fukovský potok, Q28089475, Q28078071, Rožanský potok, Q28034146, Jiříkovský potok, Q28756204, Q28043686, Kleine Spree, Erpe, Camlas Landwehr, Kupfergraben, Oelse, Grützmachergraben, Struga, Q1785371, Löcknitz, Roter Nil, Q2203521, Großes Fließ, Blabbergraben, Spreekanal, Cunewalder Wasser Edit this on Wikidata
Dalgylch10,100 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd382 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad36 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddSchwielochsee Edit this on Wikidata
Map

Mae'n tarddu o dair ffynhonnell yn Ucheldiroedd Lwsatia, rhan o'r Sudeten, yn Sacsoni: llygad hanesyddol yr afon, a elwir Spreeborn, ym mhentref Spreedorf; y ffynnon ddyfrlawnaf, ger Neugersdorf; a'r tarddle uchaf, ger Eibau. Llifa'r afon i'r gogledd drwy ranbarthau Lwsatia Uchaf ac Isaf, gan groesi'r ffin daleithiol rhwng Sacsoni a Brandenburg, ac hollti'n ddau gwrs ger Spremberg. Wedi iddi lifo drwy Cottbus—yr ail ddinas fwyaf ar ei glannau—rhenna'r afon yn sawl sianel gysylltiedig, gan ffurfio aberdir corsiog a elwir Coedwig Spree sy'n estyn hyd at dref Lübben. Y tu hwnt i Fürstenwalde a Köpenick, cyrhaedda'r afon brifddinas yr Almaen, Berlin, gan droelli drwyddi ar sawl cwrs cyn ymuno o'r diwedd â'r Havel, un o isafonydd yr Elbe, ym mwrdeistref Spandau.

Mae rhannau mawr o Goedwig Spree wedi eu trin ar gyfer garddio masnachol, ac mae'r ardal hefyd yn gyrchfan twristaidd poblogaidd. Cysylltir y Spree ag afonydd cyfagos gan gamlesi, pwysicaf oll Camlas Oder-Spree i dde-ddwyrain Berlin.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Spree River. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Tachwedd 2023.