Camlas
Dyfrffordd wedi ei gwneud gan ddyn rhwng llynnoedd, afonydd neu foroedd yw camlas. Pwrpas camlas yw cludo nwyddau neu bobl mewn cwch neu long. Mae camlesi hefyd yn cael eu creu er mwyn dod â dŵr i ddyfrhau tiroedd sychion. Mae rhai pobl yn byw mewn cychod ar gamlesi.
Enghraifft o'r canlynol | math o afon, math o strwythur |
---|---|
Math | adeiladwaith hydrolig, corff dŵr artiffisial, linear construction, cwrs dŵr, isadeiledd, adeiladwaith pensaernïol |
Yn cynnwys | loc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yng Ngorllewin Ewrop roedd camlesi yn bwysig iawn cyn dyfodiad y rheilffyrdd adeg y Chwyldro Diwydiannol ond pan ddaeth y rheilffyrdd collasant eu pwysigrwydd, a defnyddiwyd llawer ohonynt fel llwybr i'r rheilffordd ar ôl ailgyfeirio'r dŵr.
Gyda tyfiant twristiaeth defnyddir cychod ar gamlesi fel lle i ymwelwyr gysgu ac aros ynddynt tra yn teithio ar hyd y gamlas. Ond mewn rhai gwledydd, e.e. yn Tsieina a De-ddwyrain Asia, mae nifer o bobl yn dal i fyw a gweithio ar eu cychod ar y camlesi.
Camlesi Enwog
golygu- Camlas Panama
- Camlas Suez
- Camlas Corinth
- Camlesi Fenis
Camlesi Cymru
golygu- Prif: Camlesi Cymru
Y gamlas gyntaf i'w hadeiladu yng Nghymru oedd Camlas Morgannwg. Dechreuwyd ei hadeiladu yn 1790 ac fe'i hagorwyd yn 1794. Roedd hon, fel nifer o'r camlesi, yn allweddol i gludo haearn a glo i borthladdoedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Cyn hyn yr unig ffordd i'w cludo oedd gyda merlod a cheffylau. Roedd y cymoedd serth yn ei gwneud yn anodd i gloddio'r camlesi yng Nghymru.