Afon Tâl
Afon yn ardal Eifionydd, Gwynedd, yw Afon Tâl. Mae'n llifo yng nghymuned Llanaelhaearn i gyrraedd y môr ar draeth Trefor. Ei hyd yw tua 3.5 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.980538°N 4.405913°W |
Hyd | 3.5 milltir |
Cwrs
golyguMae tarddle Afon Tâl yn gorwedd ger y blwch rhwng Moel Penllechog a'r Gyrn Ddu (hefyd Gurn Ddu), tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanaelhaearn.[1]
Mae'n llifo i gyfeiriad y gorllewin i gyrion Llanaelhaearn lle mae'n troi i gyfeiriad y gogledd. Ger fferm yr Hendre Fawr mae'n mynd dan bont ar y briffordd A499 ac wedyn yn troi i gyfeiriad y gogledd-orllewin i lifo i lawr y cwm i bentref Trefor.[1] Ar ei ffordd drwy Drefor ceir rhes o dai chwarelwyr ar ei glan, sef Stryd yr Eifl, a ddaeth yn gyfarwydd i wylwyr S4C fel lleoliad dychmygol y gyfres ddrama sebon Minafon.
Ar ôl mynd trwy'r pentref ei hun mae'r afon yn cyrraedd y traeth carregog ger pier Trefor ac yn llifo i Fae Caernarfon wrth droed llethrau'r Eifl.[1]