Trefor

pentref yng Ngwynedd

Pentref gerllaw Yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn yng Ngwynedd yw Trefor ("Cymorth – Sain" ynganiad ) . Saif ychydig oddi ar y briffordd A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn, lle maer'r briffordd yn gadael yr arfordir ac yn troi tua'r de. Mae'n rhan o gymuned Llanaelhaearn. Mae yno harbwr bychan, pier a thraeth. Llifa Afon Tal i'r môr yn y pentref.

Trefor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanaelhaearn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.993°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH371467 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am y pentref yng Ngwynedd yw hon. Gweler hefyd Trefor (gwahaniaethu).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

 
Trefor o lethrau Yr Eifl
 
Trefor gyda phen gogleddol Yr Eifl
 
Chwarel Sets, Trefor, c.1875

Pentref cymharol newydd yw Trefor. Yn 1839 nid oedd dim yno ond ffermydd a hanner dwsin o dai chwarelwyr. Tyfodd y pentref pan ddatblygodd y chwarel ithfaen ar Yr Eifl, a agorwyd yn 1850.

'Y Gwaith Mawr' oedd yr enw a roddwyd ar y chwarel newydd; yn ôl y sôn dyma chwarel sets fwyaf yn y byd, am gyfnod. Er ei fod ar lan y môr, nid "Tre-fôr" yw tarddiad yr enw. Enw gwreiddiol yr ardal yma oedd yr Hendre Fawr, neu'n syml,yr Hendre.[3] Ceir y cofnod cyntaf o'r enw hwn yn 1552.

Ail-enwyd y pentref yn 1850 ar ôl Trevor Jones, rheolwr y chwarel.[4] Gweithwyr yn y chwarel a'u teuluoedd oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth ac i blant y gweithwyr y codwyd yr ysgol gyntaf. Yn 1865 agorwyd tramffordd Chwarel yr Eifl i ddod a'r ithfaen o'r chwarel i'r harbwr. O'r cychwyn cyntaf bron roedd 'na berthynas glos rhwng gweithwyr chwarel Trefor a chwarel ithfaen Penmaenmawr.

Mae Seindorf Arian Trefor, a sefydlwyd yn 1863, yn un o'r hynaf yng Ngwynedd.

Ffilmiwyd y gyfres deledu Minafon yma yn yr 1980au a dogfennwyd bywyd y pentre yn y gyfres Trefor Only a ddangoswyd ar S4C yn 2005.[5]

Pobl o Drefor

golygu
 
Y cei yn Nhrefor
  • Thomas Bowen Jones. Bardd ac enillydd Cenedlaethol
  • Alun Jones. Llenor, enillydd cenedlaethol a pherchennog Llen Llyn, Pwllheli
  • Geraint Jones. Cerddor ac ymgyrchydd.
  • Morgan Jones. Sylwebydd chwaraeon.
  • Bet Jones, Llennor ac enillydd cenedlaethol
  • Guto Dafydd, bardd y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2014
  • Elis Dafydd, bardd y Gadair, Eisteddfod yr Urdd, Caerffili, 2015
  • Edward John (E. J.) Hughes (1888-1967). Cerddor ac organydd.
  • Miriam Trefor o Drefor

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Gweler Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2008)
  4. Yng Nghyfrifiad 1851 cofnodir bod Trevor Jones, lojar yn Gwydir Bach, yn 'Agent (Granite stone works)' a'i fod yn 42 oed ac yn enedigol o blwyf Llanllyfni.
  5. Welsh village to star in real life TV soap (en) , WalesOnline, 12 Chwefror 2005. Cyrchwyd ar 9 Mai 2020.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl (Gwilym Jones, 1972)
  • Gwilym Owen, Dan Gysgod yr Eifl (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1990). Cyfrol fach ar chwaareli Llŷn gydag adran am chwarel Trefor.

Dolenni allanol

golygu