Afon Taf Fechan
afon ym Mhwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful
Afon yn ne-ddwyrain Cymru sy'n un o isafonydd Afon Taf yw Afon Taf Fechan.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful, Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7553°N 3.3963°W |
Mae'r afon yn tarddu ym Mlaen Taf Fechan, ychydig i'r de o gopa Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog. Mae'n llifo tua'r de-ddwyrain i lifo trwy Gronfa Neuadd Uchaf a thrwy Fforest Taf Fechan i Gronfa Pentwyn ac yna Cronfa Pontsticill. Wedi gadael y gronfa, mae'n llifo tua'r de heibio pentref Pontsticill, yna'n troi tua'r de-orllewin heibio Trefechan i gyfarfod Afon Taf Fawr fymryn i'r de o bentref Cefn-coed-y-cymmer, i ffurfio Afon Taf.
Mae Llwybr Taf yn dilyn yr afon am ran helaeth o'i chwrs.