Taith Taf
Llwybr yn ne Cymru ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yw Taith Taf (weithiau Llwybr Taf) (Saesneg: Taff Trail). Mae'r llwybr, sy'n rhan o Lôn Las Cymru, yn ymestyn am 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, gan ddilyn Afon Taf am ran helaeth o'r ffordd.
Math | llwybr troed, llwybr beic |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lôn Las Cymru |
Lleoliad | De Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6964°N 3.3471°W |
Hyd | 89 cilometr |
Mae'r llwybr yn cychwyn ym Mhlas Roald Dahl, Caerdydd, ac yn croesi Afon Taf ac yna'n ei dilyn tua'r gogledd drwy ganol y ddinas, gan ddod o fewn 50 llath i orsaf reilffordd ganolog Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm; yna mae'n arwain trwy Erddi Sophia, Parc Bute a Meysydd Pontcanna. Wedi gadael y ddinas, mae'n mynd drwy bentref Tongwynlais, lle mae'n fforchio, gydag un fforch yn dringo i Gastell Coch a'r fforch arall yn mynd islaw'r castell. Mae'r ddwy ran yn ail-ymuno ger Nantgarw.
Oddi yma, mae'n dilyn llwybr seiclo cenedlaethol rhif 4 heibio Pontypridd a Rhydyfelin, Cilfynydd ac Abercynon. Ger Pontygwaith, mae'n dringo'n serth uwchben y briffordd A470 i Aberfan, yna trwy bentrefi Troed-y-rhiw ac Abercannaid, i gyrraedd Merthyr Tudful.
Oddi yno, mae'n dilyn Afon Taf Fechan trwy Pontsticill, tros Fannau Brycheiniog a heibio Talybont-ar-Wysg, i Aberhonddu, gan ddilyn Camlas Mynwy ac Aberhonddu am ychydig cyn cyrraedd y pen draw.
Ceir hefyd lwybr arall a elwir yn Llwybr Taf sy'n dilyn Afon Taf Fawr o Gefn Coed i Aberhonddu.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) My Taff Trail – gwybodaeth am y llwybr